Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am ailgylchu a sbwriel

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am ailgylchu, biniau, sbwriel a thipio'n anghyfreithlon.

Pam y mae angen i ni wahanu deunyddiau i'w hailgylchu i wahanol fagiau? Pam nad ydym ni'n gallu cael un bag ar gyfer yr holl ailgylchu?

Mae casglu deunyddiau ar wahân yn lleihau halogiad ac yn ein helpu i ailgylchu mwy yn y DU. Mae hefyd yn unol â'r dull a gynghorir ar gyfer Cymru gyfan gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cerbydau sy'n casglu eich ailgylchu gyda wahanol rannau ar gyfer gwahanol ddeunyddiau a bydd ein criwiau casglu yn rhoi eich ailgylchu yn uniongyrchol yn y rhannau cywir.

Oes rhaid i breswylwyr ailgylchu?

Oes, mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn galluogi'r cyngor i benderfynu pa ddeunyddiau sy'n cael mynd mewn cynhwysyddion, gan gynnwys sachau du, neu beidio.  Pan gadarnheir y gofynion hyn drwy roi hysbysiad, gall peidio â chydymffurfio â'r hysbysiad arwain at ddirwy neu erlyniad, fodd bynnag, ateb olaf fyddai hyn yn unig i'r rheiny sy'n gwrthod ailgylchu.

Beth sy'n digwydd os bydd rhywun yn gadael eu sachau du y tu allan i fy eiddo?

Os yw hyn wedi digwydd, rhowch wybod i ni. Ystyrir bod hyn yn dipio anghyfreithlon a gallai'r troseddwr wynebu camau gorfodi.

Pam nad oes gan Abertawe finiau gydag olwynion?

Mae rhai pobl yn dwlu arnyn nhw ac eraill yn eu casáu, ond mae'r math o dai sydd yn Abertawe a'i thirwedd fryniog yn golygu mai cyfran fach yn unig o eiddo fyddai'n addas ar gyfer biniau olwynog ac felly ni allant gael eu defnyddio ar gyfer casgliadau gwastraff domestig.

Beth sy'n digwydd i'r deunyddiau sy'n cael eu gwahanu i'w hailgylchu ar ôl casglu?

Ar ôl cael eu casglu, mae'r deunyddiau'n mynd yn gyntaf i'n gorsaf trosglwyddo gwastraff ym Mharc Menter Abertawe. Yma cânt eu pentyrru a'u didoli'n rhannol ac mewn rhai achosion cânt eu cywasgu'n fwndeli mawr. Yna caiff y deunyddiau sydd wedi'u prosesu eu casglu gan lorïau a'u cludo i gyfleusterau gwahanol i'w hailbrosesu'n gynnyrch newydd. Mae'r rhan fwyaf o'r deunyddiau sy'n cael eu casglu yn Abertawe'n cael eu hailgylchu yng Nghymru a'r DU. Mae manylion pellach ynghylch ble'n union y mae'r deunyddiau gwahanol yn mynd yn y pen draw i'w cael yn Fy Ailgylchu Cymru (Yn agor ffenestr newydd).

Pam nad ydych chi'n casglu plastigion meddal?

Ni fydd cwmnïau ailgylchu plastig yn derbyn eitemau plastig meddal, gan gynnwys bagiau siopa, haenen lynu blastig neu ddeunydd lapio. Mae hyn oherwydd nid yw'n bosib ailgylchu nifer o eitemau plastig meddal yn hawdd, a phan gânt eu cymysgu ag eitemau anhyblyg fel poteli, tybiau a hambyrddau, maent yn anodd iawn i'w gwahanu, sy'n angenrheidiol er mwyn eu hailgylchu.

Dylid rhoi plastigion meddal yn eich sachau du ar gyfer eu casglu wrth ymyl y ffordd. Gallwch ailgylchu rhai eitemau plastig meddal yn archfarchnadoedd mawr, os yw'n bosib mynd â nhw yna - Cymru’n Ailgylchu – lleoliadau ailgylchu (Yn agor ffenestr newydd).

Pam mae'r cyngor yn cael gwared ar rai biniau sbwriel neu finiau baw cŵn?

Mae rhai biniau wedi cael eu camddefnyddio gan 'bobl anhysbys' sy'n eu llenwi â gwastraff cartref/domestig/masnach etc. Pan fydd hyn yn digwydd, nid yw'r biniau'n cael eu defnyddio'n ôl y bwriad ac, mewn rhai achosion, nid yw eu gwagio'n barhaus yn gynaliadwy.

Os bydd pobl yn parhau i gamddefnyddio'r bin, gallwn benderfynu cael gwared arno (ar sail dros dro mewn rhai achosion) neu ail-leoli'r bin yn yr ardal gyfagos. Fel arfer, dim ond os bydd popeth arall yn methu y byddwn yn gwneud hyn yn dilyn monitro'r bin yn barhaus a methiant y cyhoedd i gydymffurfio â'n hysbysiadau sy'n cael eu gosod ar y biniau sbwriel cyn cae gwared arnynt.

Pam nad yw'r cyngor yn defnyddio swyddogion gorfodi neu deledu cylch cyfyng i wylio biniau sy'n cael eu camddefnyddio ac ardaloedd lle mae pobl yn tipio'n anghyfreithlon? 

Nid oes gennym yr adnoddau/gweithlu i fonitro pob bin yn yr ardal 24/7. Heb eithriad, mae'r rhai sy'n gyfrifol am gamddefnyddio biniau'n ymwybodol bod yr arfer yn annerbyniol ac felly'n mynd i drafferth i osgoi cael eu dal. Felly mae'r siawns o ddal y rhai sy'n gyfrifol yn isel iawn. 

Ond, mae gwybodaeth leol yn bwysig ac os oes gan unrhyw aelod o'r cyhoedd unrhyw wybodaeth am finiau sy'n cael eu camddefnyddio, rydym yn ei annog i roi gwybod i ni trwy ffonio Parciau a Glanhau ar Is-adran.parciau@abertawe.gov.uk / 01792 280210.

Er bod defnydd cyfyngedig o deledu cylch cyfyng mewn rhai achosion, mae goblygiadau cyfreithiol ac adnoddol sylweddol sy'n aml yn rhy fawr o'u cymharu â'r buddion. 

Pam mae gweithredwyr glanhau sy'n codi sbwriel yn cario sachau glas a gwyrdd?

Rydym wedi cyflwyno menter ailgylchu ar gyfer ein gwaith rheolaidd i godi sbwriel oddi ar ffyrdd a throedffyrdd ac mewn ardaloedd mabwysiedig eraill gan gynnwys ar rai traethau sy'n eiddo i'r cyngor. Oni bai bod amodau tywydd eithafol yn golygu na allwn wneud hynny, byddwn yn rhoi'r holl ddeunyddiau na ellir eu hailgylchu mewn sach las ac unrhyw duniau/caniau, gwydr neu gynwysyddion plastig meddal megis poteli diod/llaeth yn y sach werdd.

Wrth wneud hyn, rydym yn cyfrannu at gynyddu cyfraddau ailgylchu cyffredinol y cyngor a lleihau nifer y deunyddiau sy'n cael eu hanfon i safle tirlenwi. 

Close Dewis iaith