Dyddiau Dawns 2025
Dydd Sadwrn 31 Mai - Dydd Sul 1 Mehefin

Lleoliad: Marina Abertawe & Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mae Dyddiau Dawns yn dathlu 20 mlynedd o giciau, fflipiau, blocio a phopio, gyda phenwythnos yn orlawn o acrobateg ddifyr, dawnsio stryd bombastic, a stepio gwerin tanllyd.
Eleni, mae Motionhouse yn dychwelyd gyda pherfformiad 'gwyllt', ochr yn ochr â'r Mimbre gwych, digrifwch Kitsch & Sync Collective a WoW Dolls, a rydym yn plymio i ddyfroedd anhysbys gyda Fishboy 2Faced Dance, a Sea Monster gan Le Physical. Mae'r ŵyl hefyd yn arddangos cwmnïau dawns cymunedol gwych Abertawe gyda Chwmni Dawns Ieuenctid y Sir, Cymdeithas Tsieineaid yng Nghymru, Cymdeithas Ddawns Undeb y Myfyrwyr, a CanDo Hub.
O ddawns draddodiadol a chyfoes, perfformiadau stryd, a syrcas, mae gan Dyddiadu Dawns 2025 rywbeth i bob oed, gan gynnwys cyfleoedd i ymuno, o sgiliau syrcas, i samba, a hyd yn oed dawns Calan Mai!
Does dim angen archebu lle ar gyfer Diwrnodau Dawns 2025. Dewch draw ar y diwrnod a mwynhewch bopeth sydd ar gael, AM DDIM.
Peidiwch â cholli'r ŵyl awyr agored eiconig hon yn Abertawe!
Bydd gŵyl eleni yn cynnwys...
Motionhouse . Sambahia . County Youth Dance Company . 2Faced Dance Company . Chinese in Wales Association . Osian Mei . Folk Dance Remixed . Le Physical . Kate Lawrence Vertical Dance . SU Dance Society . CanDo Hub . Kitsch & Sync Collective . Mimbre . NPTCollege . Ibero-Latin Americans in Wales .
Mae Abertawe'n falch o fod yn un o'r dinasoedd cyntaf yn y DU i ymuno â'r rhwydwaith dawns byd-eang hwn, sy'n cynnwys Rio de Janeiro, Barcelona, Genefa, Llundain a Manceinion.
Delwedd gan Chris Walshaw