Toglo gwelededd dewislen symudol

Gostyngiad elusennol i ardrethi busnes

Mae elusennau a sefydliadau nid er elw yn gymwys i dderbyn gostyngiad o hyd at 100% ar eu hardrethi busnes.

Elusennau

Gall elusennau cofrestredig a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol cofrestredig gyflwyno cais am ostyngiad elusennol, sy'n ostyngiad o 80% gorfodol ar eich ardrethi.

Hefyd, mae gan y cyngor y disgresiwn i dalu tuag at yr 20% sy'n weddill o'ch bil trethi gyda chymorth trethi dewisol.

Sefydliadau nid er elw

Caiff sefydliadau nid er elw wneud cais am gymorth trethi dewisol a chael cymorth hyd at 100% ar eu bil trethi. Bydd lefel y cymorth a roddir yn dibynnu ar fath eich sefydliad.

Y math o sefydliadau a gaiff elwa ar hyn yw:

  • clybiau a meysydd chwaraeon amatur
  • canolfannau a neuaddau cymunedol
  • canolfannau cymunedol lles ac addysgol
  • sefydliadau ieuenctid
  • grwpiau celfyddydau, cerddoriaeth, crefyddol, dyngarol

Cymorth trethi dewisol i elusennau a sefydliadau eraill

Sut i gyflwyno cais

Cais am ryddhad ardrethi busnes ar gyfer elusennau (PDF) [417KB]
(mae'r ffurflen hon ar gyfer elusennau ac yn cynnwys cymorth elusennol gorfodol a dewisol)

Cais am gymorth trethi ar gyfer sefydliadau chwaraeon (PDF) [380KB]

Beth i'w anfon atom i gefnogi'ch cais am gymorth

Beth bynnag yw math eich sefydliad, pan anfonwch eich ffurflen gais atom, mae'n rhaid i chi gynnwys:

  • copi o weithred yr ymddiriedolaeth neu brint o gyfansoddiad ysgrifenedig y sefydliad
  • copi o'r cyfrifon diweddaraf oni bai eu bod ar gael ar-lein
  • datganiad o fanylion y gweithgarwch a'r gwaith a wneir yn yr adeilad

Dychwelwch eich cais a'ch dogfennau ategol i'r:

Pennaeth Cyllid a Chyflwyno, Dinas a Sir Abertawe, Is-adran Ardrethi Busnes, Canolfan Ddinesig, Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN.

Cymorth trethi dewisol i elusennau a sefydliadau eraill

Rhaid ystyried pob cais am gymorth yn unigol. Fodd bynnag, mae'n briodol llunio polisïau arweiniad i ddarparu fframwaith er cysondeb.
Close Dewis iaith