Gŵyl Canu Gwlad Campfire
Dydd Gwener 20 Mehefin, Parc Singleton

Croeso i fyd canu gwlad!
Byddwch yn barod i symud eich traed a chael amser da yng Ngŵyl Canu Gwlad Campfire eleni - digwyddiad dathlu canu gwlad llawn hwyl ac antur yn yr awyr agored sy'n addas i deuluoedd ac sy'n para drwy'r dydd!
P'un a ydych yn dwlu ar ganu gwlad neu'n chwilio am ddiwrnod allan llawn hwyl gyda'r teulu cyfan, mae rhywbeth at ddant pawb yn yr ŵyl awyr agored anhygoel hon!
Cerddoriaeth fyw drwy'r dydd: tynnwch eich esgidiau a dawnsiwch i ganu gwlad o'r radd flaenaf! O sêr newydd lleol i deyrngedau i:
Dolly Parton, Kenny Rogers, Taylor Swift, Zach Bryan, Post Malone, Johnny Cash a mwy!
Holl hwyl ffair bleser: Mwynhewch y carnifal gyda reidiau gwreiddiol a gemau clasurol!
Bwydydd a diodydd: P'un a ydych yn ysu am fwyd barbeciw, byrgers o safon, neu ddiodydd crefft lleol, bydd ein tryciau bwyd a'n safleoedd diodydd yn cynnig rhywbeth at eich dant!
Marchnad a nwyddau: Dewch am dro drwy farchnad unigryw ar ffurf y Gorllewin Gwyllt, gan gynnwys crefftwyr lleol, crefftau, a nwyddau ar thema cowbois. Efallai y dewch o hyd i'r gofrodd berffaith i gofio'r diwrnod!
Dewch â'ch ffrindiau ynghyd ac ymunwch â ni am ddiwrnod llawn canu gwlad bythgofiadwy, bwyd blasus a hwyl hen ffasiwn!