Gŵyl Tawe 2025
Dydd Sadwrn 7 Mehefin

Gŵyl Tawe - Gŵyl iaith Gymraeg Abertawe
Bydd gŵyl Menter Iaith Abertawe, Gŵyl Tawe, yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn y 7 o Fehefin i leoliad newydd eleni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Bydd yr ŵyl yn cynnwys perfformiadau gan sêr y byd cerddoriaeth Cymraeg yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau i'r holl deulu.
Bydd yr ŵyl eto yn gweld perfformiadau gan lu o artistiaid amgen, cyfoes sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg mewn ffyrdd amrywiol a chyffrous. Bydd y gerddoriaeth fyw yn cael ei chynnal ar draws prif lwyfan awyr agored yr ŵyl a'r ail lwyfan yng nghanol yr amgueddfa. Gruff Rhys yn cloi'r ŵyl.
Yn ogystal â'r gerddoriaeth fyw, bydd sioeau theatr ryngweithiol i deuluoedd, perfformiadau gan ysgolion lleol, ac amryw o weithdai creadigol gan ein partneriaid o'u stondinau yng nghyntedd yr amgueddfa.