Toglo gwelededd dewislen symudol

Gŵyl We Love It

Dydd Sul 22 Mehefin, Parc Singleton

We Love It Festival

Byddwch yn barod i symud i seiniau eich hoff fandiau gyda pherfformiadau teyrnged byw sy'n dathlu caneuon gorau enwogion pop a roc! P'un a ydych yn dwlu ar y clasuron neu'n cyflwyno eich plant i alawon enwog, mae rhywbeth at ddant pawb.

Beth i'w ddisgwyl:

Bandiau Teyrnged Anhygoel - Canwch ar y cyd i gerddoriaeth artistiaid eiconig o bob oes, wedi'i pherfformio'n fyw ar y llwyfan!

Tryciau Bwyd a Gwerthwyr Lleol - Mwynhewch ddanteithion blasus gan werthwyr lleol poblogaidd, o fwyd barbeciw i hufen iâ.

Arena'r Teulu - Dewch gyda'r teulu i chwarae gemau, paentio eich wyneb neu fwynhau'r ffair bleser!

Dawnsio a Hwyl i Bob Oed - Byddwch yn barod i ddawnsio drwy'r dydd yn yr awyr agored gyda ffrindiau a theulu!

Ymlacio a Dadflino - Dewch â'ch blancedi picnic a'ch cadeiriau gwersylla i fwynhau'r ymdeimlad hafaidd yn ein hardal awyr agored fawr.

Mwy o wybodaeth.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Mai 2025