Gyda'n Gilydd dros y Nadolig yn Neuadd Brangwyn
12.00pm - 3.00pm ddydd Mawrth 5 Rhagfyr. Yn lledaenu ychydig o hwyl yr ŵyl a chefnogaeth i bobl sy'n agored i niwed, sy'n teimlo'n unig neu sydd efallai'n ddigartref.

Mae'r diwrnod yn cynnwys:
- cinio Nadolig dau gwrs am ddim
- banc bwyd dros dro
- adloniant byw
- Cludiant am ddim (11.15am o'r mannau canlynol a thaith adref am 3.15pm o Neuadd Brangwyn)
- Oriel Gelf Glynn Vivian
- Pwynt Mynediad Goleudy ar y Strand
- Gorsaf Fysus y Cwadrant
- brechiadau ffliw a COVID am ddim
- torri gwallt am ddim
- cotiau a dillad gaeaf am ddim
- help a chyngor am ddim gan Gyngor Abertawe ar dai, cyflogaeth a hawliau lles



Cyflwynir y digwyddiad hwn gan JR Events and Catering, gyda chefnogaeth gan Gyngor Abertawe.
Rhagor o wybodaeth
I wirfoddoli, i gael rhagor o wybodaeth, neu i ddarparu gwasanaeth, adloniant neu gyfraniad, cysylltwch â Shannon Williams:
- events@jr-eventsandctering.co.uk
- 01792 446017