Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Plasty

Y Plasty yw cartref swyddogol yr Arglwydd Faer.

Mae Plasty Abertawe yn Ffynone a'i enw gwreiddiol oedd "Brooklands". Cwblhawyd y ty yn 1863 pan ymgartrefodd Evan Matthew Richards, adeiladwr lleol adnabyddus, a'i deulu yno. Fe oedd Maer Abertawe yn 1855 a 1862. Ar ôl ei farwolaeth yn 1880, gwerthwyd Brooklands ddwywaith cyn cael ei brynu gan Fwrdeistref Sirol Abertawe yn 1922 gyda'r bwriad o'i wneud yn breswylfa swyddogol i'r Maer. O hynny ymlaen, cafodd ei ailenwi fel y Plasty.

O 1923 tan 1975, bu'r ty yn llety ar gyfer barnwyr a oedd yn ymweld ac ar achlysuron o'r fath roedd yn rhaid i'r Maer adael yr eiddo.

Nodweddion gwreiddiol

Mae gan y ty nifer o'i nodweddion gwreiddiol fel y neuadd deils Fictoraidd, y grisiau mahogani sy'n arddangos ffenestr gwydr lliw fawr sy'n coffáu'r perchennog gwreiddiol a'i deulu a'r llefydd tân marmor Eidalaidd gwyn.

Nid yw ymddangosiad y plasty wedi newid llawer ers iddo gael ei adeiladu yn 1863. Mae llawer o'r celfi a'r paentiadau'n dod o gasgliad teulu Vivian ac felly maent yng ngofal Oriel Gelf Glynn Vivian a'r amgueddfa. Mae'r ty hefyd yn cynnwys casgliad sylweddol o lestri arian a gyflwynwyd i Abertawe dros nifer o flynyddoedd.

Magnelau ar deras y Plasty 

Ar y teras ar flaen adain y de-orllewin gwelir deial haul a dau ganon efydd chwephwys. Mae gan y canonau hanes hir. Cawsant eu creu yn Woolwich yn 1804 am £296 13s. 

Codwyd yr arian yn Abertawe gan fasnachwyr lleol a pherchnogion llongau a gasglwyd ynghyd yn 1803 i drafod prynu pedwar canon chwephwys ar gyfer amddiffyn y porthladd yn erbyn ymosodiadau gan y Ffrancwyr. Roedd bygythiad ymosodiad gan Napoleon a'r atgof o gyrhaeddiad y Ffrancwyr yn Abergwaun yn 1797 siwr o fod ar feddwl y bobl ar y pryd. Cyrhaeddodd y gynnau Abertawe ar ddydd Sadwrn 14 Gorffennaf 1804, ac fe'u gosodwyd nhw ar hyd amddiffynfeydd y Môr. 

Pan osodwyd y fagnelfa ar Ben y Mwmbwls yn y 1860au nid oedd angen amdanynt mwyach, ac fe'u rhoddwyd nhw i'r Gorfforaeth. Ni thaniwyd y gynnau mewn dicter erioed.

Y Presennol

Ar hyn o bryd, mae tri chategori o dderbyniadau'n cael eu cynnal yn y Plasty:

  1. Derbyniadau corfforaethol - Mae'r rhain yn amrywio o frecwast/ cinio a chinio nos, cinio/ cinio nos ar gyfer VIPs a digwyddiadau ar gyfer sefydliadau lleol a chenedlaethol.
     
  2. Derbyniadau preifat - Mae'r Arglwydd Faer yn gallu defnyddio'r Plasty ar gyfer derbyniadau preifat e.e. boreau coffi, te prynhawn, nosweithiau bwyd bys a bawd neu ginio. Mae cost y derbyniadau hyn yn cael ei dalu gan yr Arglwydd Faer.
     
  3. Derbyniadau elusennol - Mae pob Arglwydd Faer yn derbyn ceisiadau oddi wrth sefydliadau elusennol amrywiol i ddefnyddio'r Plasty ar gyfer boreau coffi neu nosweithiau caws a gwin/ nosweithiau bys a bawd i godi arian. Mae'r rhain yn cael eu rhoi yn rhad ac am ddim i'r elusennau dan sylw (ac eithrio cost y staff gweini).

Close Dewis iaith