Toglo gwelededd dewislen symudol

Pontyd ac adeileddau priffordd

Gwybodaeth am bontydd a strwythurau'r briffordd, gan gynnwys sut i adrodd am ddifrod.

Mae Dinas a Sir Abertawe'n gyfrifol am archwilio a chynnal a chadw dros 200 o bontydd priffordd, cylfatiau, tanffyrdd, a waliau cynnal. 

O fewn y sir mae hefyd strwythurau priffordd sy'n eiddo i sefydliadau eraill megis Network Rail, Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain a pherchnogion preifat unigol.

Mae'r holl bontydd argefnffyrdd de Cymru yn cael eu rheoli gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru (Yn agor ffenestr newydd).

Mae angen i ni:

  • Sicrhau diogelwch strwythurau'r briffordd
  • Rheoli llwybr a symudiad cerbydau â llwythi anarferol yn y sir
  • Cymeradwyo strwythurau'r briffordd a gynigir gan ddatblygwyr
  • Dylunio strwythurau a darparu cyngor strwythurol i adrannau eraill y cyngor.

Adrodd am ddifrod i bontydd a strwythurau eraill

Dylech adrodd am unrhyw ddifrod y gwelwch ar bontydd a chylfatiau etc. gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. Nodwch leoliad y broblem, eich enw a'ch manylion cyswllt.

 

Cwestiynau cyffredin am bontydd

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am gynnal a chadw pontydd.

Pontydd ac adeileddau priffordd

Enw
Pontydd ac adeileddau priffordd
Rhif ffôn
01792 636000
Close Dewis iaith