Theatr Awyr Agored - Pride and Prejudice
Nos Mercher 13 Awst, Castell Ystymllwynarth

Bydd theatr Illyria yn cyflwyno Pride and Prejudice yn Theatr Awyr Agored Abertawe yng Nghastell Ystumllwynarth nos Fercher 13 Awst am 7pm.
Ynghylch y sioe:
Mae Mr Darcy yn mynd dan groen Lizzy! Neu ydy ef ...? All hi weld y tu hwnt i'w falchder ef - ac a allai ef oresgyn ei rhagfarn hi - i ystyried dyfodol posib gyda'i gilydd? Bydd theatr arobryn Illyria yn dychwelyd i ddathlu 250 o flynyddoedd ers geni Jane Austen mewn modd nodedig. Dewch â phicnic wrth i chi fwynhau ei ffraethineb!
Bydd ein castell hanesyddol yn cynnig cefndir nodedig ar gyfer perfformiad theatr Illyria o Pride and Prejudice ym mis Awst. Mae'r sioe'n siŵr o fod yn brofiad gwirioneddol unigryw a bythgofiadwy. Cyflwynir Theatr Awyr Agored gan Gyngor Abertawe.