Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus

Mae Adran 40 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd ar bob Prif Gyngor i baratoi a chyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus.

Mae'r Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus yn cefnogi Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu'r cyngor.

Nod y Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus yw hyrwyddo:

  • Swyddogaethau'r Prif Gyngor.
  • Sut i ddod yn Aelod (Cynghorydd) o'r Prif Gyngor, a'r hyn y mae aelodaeth (Bod yn Gynghorydd) yn ei olygu.
  • Cael mynediad at wybodaeth am benderfyniadau a wnaed, neu sydd i'w gwneud, gan y prif gyngor.
  • Cyflwyno sylwadau i'r prif gyngor ynghylch penderfyniad cyn ac ar ôl iddo gael ei wneud.
  • Trefniadau a wnaed, neu sydd i'w gwneud, at ddiben dyletswydd y cyngor yn adran 62 o Fesur 2011 (dwyn barn y cyhoedd i sylw pwyllgorau trosolwg a chraffu).
  • Manteision Cynghorwyr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phobl leol.