Plac Glas i Ludwig Wittgenstein
Er cof am yr athronydd, yr academydd a'r athro o fri
Lleoliad y plac: Bae Langland, ar wal y promenâd tuag at ben gorllewinol (y clwb golff) y bae, ger y caffi Hole in the Wall.
Gellid honni mai Ludwig Wittgenstein oedd athronydd mwyaf yr 20fed ganrif. Mae'n adnabyddus am ei waith ym meysydd rhesymeg, athroniaeth mathemateg, athroniaeth y meddwl ac athroniaeth iaith. Fe'i ganed ym 1889 yn Fienna i un o'r teuluoedd mwyaf cyfoethog yn Ewrop, ond bu ei fagwraeth yn helbulus o ganlyniad i hunanladdiad tri o'i frodyr.
Daeth i'r DU yn gyntaf ym 1911, pan aeth i astudio gyda Bertrand Russell yng Nghaergrawnt, gan arwain at ei waith mawr cyntaf, Tractatus Logico-Philosophicus. Ar ôl gwasanaethu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth yn athro ysgol yng nghefn gwlad Awstria cyn dychwelyd i'r byd academaidd. Dychwelodd i Gaergrawnt lle datblygwyd ei syniadau diweddarach, mwy dylanwadol mewn darnau fel Philosophical Investigations, a gyhoeddwyd ar ôl iddo farw.
Mae cysylltiad Wittgenstein ag Abertawe'n deillio o'i gyfeillgarwch ag un o'i gyn-fyfyrwyr, Rush Rhees, darlithydd athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe o 1940 i 1966. Pan nad arhosai gyda Rhees, arhosai Wittgenstein mewn gwesty ar Langland Road ac yn nes ymlaen ar Cwmdonkin Terrace. Yn ystod yr arosiadau hyn, cerddai ar hyd llawer o forlin de Gŵyr o Fae Langland i Fae Rhosili. Oherwydd hynny, rydym wedi gosod y plac glas yma, mewn lleoliad y byddai wedi bod yn gyfarwydd iawn ag ef.
Credir bod ei hafau yn Abertawe wedi cael dylanwad ar athroniaeth Wittgenstein. Ym 1945, ysgrifennodd y canlynol mewn llythyr at Norman Malcolm:
'Rwy'n adnabod nifer o bobl yma rwy'n eu hoffi. Mae'n ymddangos yn haws i mi gyd-dynnu â phobl yma nag yn Lloegr. Rwy'n teimlo fel gwenu'n llawer amlach, e.e. pan fyddaf yn mynd am dro yn y stryd neu pan welaf blant...'
Bu farw Wittgenstein ym 1951, ond byddai ei ddylanwad ar addysgu athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn parhau. Diolch i Rush Rhees ac eraill, aeth y brifysgol rhagddi i fod yn ganolfan ryngwladol i'r rhai hynny a oedd yn edmygu ac yn arddel ei syniadau. Roedd carfan athroniaeth Abertawe'n adnabyddus am ei meddylwyr arbennig, ysbrydoledig.
Dadorchuddiwyd y plac ar 14 Tachwedd 2025.
Sut i gyrraedd yno:
- Cyfeiriad: Promenâd Bae Langland, oddi ar Brynfield Road, Newton, Abertawe SA3 4SQ
- What 3 Words: decreased.bypasses.unscrew
- Llwybrau byssus agosaf: Bws rhif 2 o Abertawe i Newton. Ewch i dudalen amserau bysus Abertawe i weld yr amserlenni.
- Meysydd parcio agosaf y Cyngor: Maes Parcio Langland
