Toglo gwelededd dewislen symudol

Adrodd am gerbyd wedi'i adael

Rhowch wybod i ni am gerbyd wedi'i adael er mwyn i ni allu mynd i'r afael ag ef.

Er mwyn ein helpu i fynd i'r afael â cherbyd wedi'i adael yn gyflym, rhowch yr wybodaeth ganlynol i ni am y cerbyd:

  • Gwneuthuriad, model a lliw'r cerbyd
  • Rhif cofrestru'r cerbyd
  • Cyflwr y cerbyd (gan fanylu ar unrhyw fandaliaeth)
  • Dyddiad terfyn y ddisg treth, os yw wedi'i harddangos
  • Union leoliad y cerbyd
  • Pa mor hir y gadawyd y cerbyd
  • Unrhyw wybodaeth arall, e.e. y perchennog neu'r defnyddiwr posib.

Os hoffech adrodd am gerbyd wedi'i adael dros y ffôn, gallwch ein ffonio ar 01792 636819.