Toglo gwelededd dewislen symudol

Amddifadedd

Amddifadedd yw'r diffyg cyfleoedd ac adnoddau y gallem eu disgwyl yn ein cymdeithas.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r dull swyddogol gan Lywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Mae'n canfod yr ardaloedd sydd â'r crynoadau uchaf o fathau gwahanol o amddifadedd.

Mae MALlC yn cynnwys wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd: incwm; cyflogaeth; iechyd; addysg; mynediad i wasanaethau; tai; diogelwch cymunedol ac amgylchedd ffisegol.  Mae'r meysydd a ddefnyddir yn MALlC yn ymwneud ag amddifadedd o safbwynt materol a chymdeithasol. Ystyr amddifadedd materol yw bod heb ddigon o adnoddau ffisegol - bwyd, dillad a chysgod - i gynnal safon byw benodol. Mae amddifadedd cymdeithasol yn cyfeirio at allu'r unigolyn i gymryd rhan ym mywyd cymdeithasol arferol y gymuned.

Mae'n bwysig gwybod, wrth ddatblygu polisïau, rhaglenni a chyllid sy'n seiliedig ar ardaloedd, sut mae pobl ddifreintiedig wedi eu dosbarthu ledled Cymru. Gellir defnyddio MALlC i lywio'r penderfyniadau hyn a meithrin mwy o ddealltwriaeth o dueddiadau amddifadedd yng Nghymru. Gellir defnyddio MALlC er mwyn:

  • Nodi'r ardaloedd bach mwyaf difreintiedig
  • Cymharu amddifadedd cymharol ardaloedd bach
  • Edrych ar yr 8 maes (math) o amddifadedd ar gyfer ardaloedd bach
  • Cymharu cyfran yr ardaloedd bach o fewn ardal fwy sy'n ddifreintiedig iawn
  • Defnyddio data dangosyddion (ond nid y safleoedd) i gymharu newid absoliwt dros amser.

Cyfrifir MALlC ar gyfer pob ardal fach yng Nghymru. Gelwir y rhain yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) - daearyddiaeth ystadegol lle mae pob ardal yn cynnwys 1,000 i 3,000 o bobl. Yn dilyn Cyfrifiad 2021, mae 1,917 ACEHI yng Nghymru ac mae 150 ohonynt yn Abertawe.

Caiff canlyniadau MALlC 2025 eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 27 Tachwedd 2025.  Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys data MALlC 2025 ar gyfer Abertawe, ar gael yma.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am MALlC, neu ystadegau eraill sy'n ymwneud ag agweddau ar amddifadedd, cysylltwch â ni.

MALlC 2025

Gwybodaeth o Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025.

MALlC 2019

Gwybodaeth o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (MALlC 2019).

Data Dangosyddion MALlC

Data dangosyddion blynyddol o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Rhagfyr 2025