Toglo gwelededd dewislen symudol

Amodau a Thelerau ar gyfer masnachu achlysurol ym Marchnad Abertawe

Dyma'r amodau a thelerau ar gyfer masnachu achlysurol ym Marchnad Abertawe.

1.           Cais

1.1        Trwy gyflwyno'r ffurflen gais hon, mae'r masnachwr yn cadarnhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn wir ac yn gywir. Gall unrhyw gamgymeriadau neu hepgoriadau arwain at dynnu cynnig yn ôl neu derfynu'r caniatâd masnachu'n ddi-oed. 

1.2        Cyfrifoldeb y masnachwr yw dweud wrth drefnydd y digwyddiad, sef 'Tîm Rheolaeth Canol y Ddinas', am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen gais.

1.3        Rhaid i bob ymgeisydd ddarllen yr amodau a thelerau hyn cyn cwblhau ei ffurflen gais ac ystyrir ei fod wedi'u derbyn pan gyflwynir cais i drefnydd y digwyddiad.

1.4        Sylwer nad oes modd cael uned fasnachu achlysurol gan drydydd parti dan unrhyw amgylchiadau. Gwaherddir is-osod cabanau.

2.           Dethol

2.1        Mae Tîm Rheolaeth Canol y Ddinas yn cadw'r hawl i wrthod ceisiadau gan unrhyw sefydliad neu unigolyn lle teimlir na fyddai ei bresenoldeb yng nghanol y ddinas er budd i Ddinas a Sir Abertawe, defnyddwyr canol y ddinas neu fusnesau sy'n gweithredu yn yr ardal. 

2.2        Adolygir ceisiadau'n unol â Pholisi Gosod Marchnad Abertawe.

2.3        Yn ystod y broses adolygu ceisiadau ystyrir y meini prawf canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • Ansawdd ac addasrwydd y cynnyrch/gwasanaethau ar gyfer y lleoliad.
  • Tarddiad y cynnyrch - mae cynnyrch nwyddau llaw yn ddymunol iawn ynghyd â chynnyrch Cymreig
  • Natur unigryw'r cynnyrch/gwasanaethau

2.4        Rhoddir dyddiadau masnachu a lleoliadau stondinau i ymgeiswyr llwyddiannus lle bynnag y bo modd, ond efallai y bydd achosion lle cynigir dyddiadau a lleoliadau amgen.

2.5        Er y gwneir pob ymdrech i osgoi hyn, rydym yn cadw'r hawl (yn ôl ein disgresiwn llwyr) ar unrhyw ddiwrnod i gwtogi neu ganslo'r archeb neu eich cyfarwyddo i gymryd stondin arall.

2.6        Mae penderfyniad Tîm Rheolaeth Canol y Ddinas yn derfynol. 

3.         Tâl

3.1        Mae'r ffi fasnachu achlysurol yn daladwy yn dilyn cais llwyddiannus a chyn dyddiadau masnachu.

3.2        Ni thelir ad-daliadau nac iawndal o unrhyw fath i fasnachwyr nad ydynt yn dod ar y dyddiadau a archebwyd neu lle cawsant gyfarwyddyd i beidio â masnachu oherwydd diffyg cydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a thelerau  hyn. 

4           Yswiriant

4.1        Rhaid bod gan bob masnachwr ei Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ei hun gydag isafswm yswiriant o £5,000,000 o bunnoedd i dalu am eu cyfnod masnachu.  Gwrthodir mynediad at y stondin os na ddarperir copi o'r dystysgrif yswiriant hon. 

5.           Digollediad ac Ymwadiad

5.1        Wrth gyflwyno'r ffurflen gais, bydd masnachwyr yn digolledu Cyngor Abertawe a'r holl staff rhag ac yn erbyn camau gweithredu, costau, colledion (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol), hawliadau neu alwadau mewn perthynas ag unrhyw ddamwain, difrod, marwolaeth neu anaf i unrhyw berson neu eiddo sy'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o fasnachu achlysurol ym Marchnad Abertawe.

5.2        I'r graddau mwyaf a ganiateir yn y gyfraith, rydych yn cytuno nad yw Cyngor Abertawe yn gyfrifol am unrhyw golledion ariannol nac am unrhyw golled neu ddifrod i'ch offer, eich nwyddau neu'ch eiddo personol ac am unrhyw anaf personol i chi neu unrhyw ran neu berson sy'n gysylltiedig â chi.

5.3        Ni ddelir Cyngor Abertawe'n gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i nwyddau ym Marchnad Abertawe; cyfrifoldeb y masnachwr yw cael yswiriant priodol.

6.           Cydymffurfiaeth Statudol a Rheoleiddiol (gan gynnwys COVID-19)

6.1        Disgwylir i fasnachwyr gydymffurfio'n llawn ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys mewn perthynas â Safonau Masnach, Diogelu Defnyddwyr, Diogelwch Bwyd, Iechyd a Diogelwch, COVID-19 a gofynion Adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Abertawe. Bydd peidio â chydymffurfio yn arwain at derfynu'r caniatâd masnachu achlysurol.

6.2        Pan roddir hysbysiad ynghylch cais llwyddiannus, darperir rhestr wirio Iechyd a Diogelwch y mae'n rhaid ei chwblhau a darparu copi ohoni cyn dechrau masnachu. Heb y rhestr hon, gwrthodir mynediad at y stondin.

6.3        Rhaid i fasnachwyr sicrhau bod ganddynt hawl gyfreithlon i weithio yn y DU a bod gan unrhyw bobl sy'n gweithio ar eu stondin yr hawl gyfreithiol honno hefyd. Os nad yw'r person yn ddinesydd y DU, rhaid sicrhau bod ganddo'r holl fisâu, hawlenni neu awdurdodiadau eraill yn ôl y gofyn.

6.4        Rhaid i bob cais am stondinau bwyd ddarparu manylion cofrestru â'u hawdurdod lleol.

6.5        Masnachwyr sy'n gyfrifol am Ddiogelwch Tân yn eu stondinau ac mae'n ofynnol iddynt gael mesurau diogelwch tân digonol ar waith gan gynnwys diffoddwyr priodol lle bo angen.

6.6        Mae polisi 'dim smygu' llym ar waith drwy'r amser ym Marchnad Abertawe a'r Gilfach Lwytho. Mae hyn yn cynnwys sigaréts electronig, a rhaid ei ddilyn.

7.           Cyfarpar 

7.1        Rhaid i'r holl gyfarpar trydanol, gan gynnwys eitemau newydd, fod mewn cyflwr da a rhaid bod ganddynt dystysgrif PAT gyfredol.

7.2        Bydd peidio â darparu'r tystysgrifau perthnasol yn arwain at dynnu'r cyfarpar o'r stondin.

8.           Gwerthiannau alcohol

8.1        Bydd angen i fasnachwyr sy'n dymuno gwerthu alcohol wneud cais am  Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro (TEN) gan Gyngor Abertawe.

8.2        Rhaid i fasnachwyr sy'n gwerthu alcohol arddangos posteri Her 25 a sicrhau bod gwiriadau diwydrwydd dyladwy yn cael eu cynnal.

9.           Ymddygiad Masnachwyr a Rheoli Stondinau

9.1        Bydd masnachwyr a'u staff yn cydweithredu ac yn cydymffurfio â phob cais rhesymol gan Dîm Rheolaeth Canol y Ddinas neu gynrychiolwyr Cyngor Abertawe ynghyd â'r holl reolau a rheoliadau eraill y maent yn cynghori iddynt ddilyn. Ni fydd cam-drin geiriol, ymddygiad ymosodol corfforol neu ymddygiad gwrthweithiol yn cael ei oddef.

9.2 Bydd masnachwyr a'u staff yn ymddwyn mewn modd proffesiynol sy'n gymdeithasol dderbyniol gan roi sylw i fuddiannau'r holl fasnachwyr a'u staff, y cyhoedd, staff y cyngor ac enw da Marchnad Abertawe a Chanol y Ddinas yn gyffredinol.

10.       Defnyddio'r Stondin

10.1 Ar wahân i ddefnyddio unedau silffoedd lle cânt eu darparu, ni fydd masnachwyr yn gwneud unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau adeileddol i'r stondin a rhaid cynnal llinellau golwg i stondinau cyfagos bob amser.

10.2     Rhaid gosod unrhyw arwyddion yn y fath fodd fel nad ydynt yn gadael unrhyw farciau gweddilliol wrth eu tynnu. 

10.3     Rhaid i fasnachwyr beidio â gosod neu hongian nwyddau y tu hwnt i ffiniau'r stondin.

10.4     Ni chaniateir i fasnachwyr ddefnyddio unrhyw systemau sain, nac arferion eraill a all achosi annifyrrwch i fasnachwyr a chwsmeriaid eraill. Ni chaniateir i unrhyw fasnachwr chwarae cerddoriaeth yn eu stondin neu o'i hamgylch. 

10.5     Dim ond y nwyddau neu'r gwasanaethau a restrir ar eu ffurflen gais gymeradwy y caniateir i fasnachwyr eu gwerthu.

10.6     Rhaid symud yr holl nwyddau ar ddiwedd y diwrnod masnachu. Os yw masnachwr wedi archebu ar gyfer diwrnodau olynol, gall eitemau aros dros nos ond bydd hynny ar fenter y masnachwr ei hun.

10.7     Ar ddiwedd eu cyfnod masnachu, rhaid i fasnachwyr sicrhau bod y stondin yn cael ei glanhau'n drylwyr a'i bod yn yr un cyflwr ag ar oedd pan ddechreuodd y masnachwr fasnachu yno. Gall difrod sy'n digwydd o ganlyniad i weithgarwch stondin olygu y gall fod angen i'r masnachwr dalu am atgyweiriadau ei hun.

11.       Defnyddio'r Cyfleusterau

11.1     Darperir cyfleusterau ar gyfer cael gwared ar wastraff ym Marchnad Abertawe ac maent yn y Gilfach Lwytho. Rhaid i fasnachwyr sicrhau nad oes gwastraff yn eu stondin neu o'i hamgylch ac y ceir gwared ar wastraff mewn modd cyfrifol.

11.2     Caniateir defnyddio'r Gilfach Lwytho wrth fynd ati i lwytho/ddadlwytho'n unig a chaiff ei monitro gan asiantaeth barcio.

11.3 Mae cyflenwad pŵer trydanol 16 amp ar gael am ffi ddyddiol fach. Os achosir nam trydanol gan offer diffygiol masnachwr neu drwy fynd yn uwch na'r cyflenwad a bennir, bydd y masnachwr yn gyfrifol am unrhyw gostau adferol yr eir iddynt.

11.4     Mae Marchnad Abertawe yn cyflogi Gwarchodwr Diogelwch ond masnachwyr sy'n gyfrifol am ddiogelwch eu nwyddau/heiddo eu hunain. Mae eitemau sy'n cael eu gadael yn y stondin dros nos ar fenter y masnachwyr eu hunain. (Gweler Adran 5).

12.        Data

12.1     Drwy gyflwyno'r ffurflen gais, rydych yn rhoi caniatâd i'ch manylion cyswllt unigol a/neu fanylion cyswllt eich cwmni gael eu storio ar system storio ac adalw electronig a chânt eu rheoli'n unol â chyfraith diogelu data.

12.2     Mae'r masnachwr yn rhoi caniatâd i'w enw masnachu a disgrifiad o'r cynnyrch, fel y nodir ar y ffurflen gais, gael eu cyhoeddi ar unrhyw wefan neu gyfrif cyfryngau cymdeithasol sy'n eiddo i Gyngor Abertawe at ddibenion hysbysebu.

12.3     Mae'r masnachwr yn cytuno i Dîm Rheolaeth Canol y Ddinas ryddhau enw a chyfeiriad busnes y masnachwr i unrhyw berson sy'n cwyno am unrhyw wasanaeth neu gynnyrch a gyflenwir gan y masnachwr ym Marchnad Abertawe.

13. Canslo

13.1     Mae Tîm Rheolaeth Canol y Ddinas yn cadw'r hawl i oedi, canslo, byrhau neu derfynu archeb fasnachu achlysurol heb rybudd os bydd argyfwng neu unrhyw reswm arall y tu hwnt i'n rheolaeth resymol. Yn y lle cyntaf, gwneir pob ymdrech i adleoli'r archeb neu ei haildrefnu.

13.2     Lle rydym wedi cadw'r hawl i oedi, canslo neu derfynu'r archeb ac nad yw adleoli neu aildrefnu wedi bod yn ymarferol, bydd y ffi yn cael ei had-dalu.

13.3     Rydym hefyd yn cadw'r hawl i derfynu ar unwaith hawl unrhyw fasnachwr sy'n methu â chydymffurfio ag amodau a thelerau neu unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a roddir gan staff y cyngor i fasnachwyr.

13.4 Ni thelir ad-daliadau nac iawndal o unrhyw fath i fasnachwyr sy'n peidio â dod i'w stondin ar ôl ei harchebu neu pan fo masnachwr wedi cael cyfarwyddyd i beidio â masnachu oherwydd diffyg cydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a thelerau hyn.

13.5 Os yw masnachwr yn dymuno canslo archeb, rhaid rhoi 14 diwrnod o rybudd. Os nad yw aildrefnu'r dyddiad yn ymarferol, caiff y ffi ei had-dalu.

Close Dewis iaith