Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

Gŵyr - bro ar wahân...

... tirwedd werthfawr y mae ei naws unigryw a'i harddwch naturiol mor eithriadol fel ei bod yn cael ei diogelu i genedlaethau'r dyfodol ...

Wedi'i dynodi ym 1956 oherwydd ei harfordir calchfaen clasurol ac amrywiaeth ei chynefinoedd naturiol, hon oedd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) gyntaf i gael ei dynodi yn y DU. Bellach mae'n perthyn i deulu o 46 AoHNE a 13 parc cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae deddfwriaeth cynllunio'n diogelu Gŵyr i'r un graddau â pharc cenedlaethol.

Mae golygfeydd godidog ac amrywiol Gŵyr yn cynnwys twyni a morfeydd heli brau yn y gogledd a chlogwyni calchfaen trawiadol ar hyd arfordir y de, wedi'u gwahanu gan draethau tywod. Y tu mewn i'r tir, ceir tirwedd o gaeau bach traddodiadol, dyffrynoedd coediog a thiroedd comin agored, i gyd yng nghysgod bryniau Cefn Bryn a Mynydd Rhosili.

Gyda thraethau arobryn, arfordir trawiadol, rhosydd tonnog a phentrefi traddodiadol wedi'u cysylltu gan lonydd bach, mae Gwyr yn lle delfrydol i ymlacio ac adfer eich egni.

Gŵyr - rheolaeth drwy bartneriaeth

Mae'r Tîm AoHNE yn gweithio mewn partneriaeth agos â phawb sy'n byw ac yn gweithio ym mhenrhyn Gŵyr ac yn rheoli'r tir, ynghyd â'r rhai sy'n gyfrifol am gadw a gwella'r dirwedd a'r bywyd gwyllt i'r genedl.

Gŵyr - datblygu cynaliadwy

Mae Partneriaeth yr AoHNE yn gweithredu cynllun grantiau bach sydd â'r nod o ddatblygu a phrofi ffyrdd o gyflawni ffordd fwy cynaliadwy o fyw ym mhenrhyn Gŵyr.

Cysylltu â'r Tîm AoHNE

Mae Dinas a Sir Abertawe'n cyflogi tîm bach i roi Cynllun Rheoli'r AoHNE ar waith a chefnogi'r Bartneriaeth AoHNE.

Ffynonellau eraill o wybodaeth am benrhyn Gŵyr

Gallwch ddefnyddio'r dolenni hyn i ddarganfod hyd yn oed mwy am Benrhyn Gŵyr.

Beth yw AoHNE?

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) yn dirwedd ddynodedig y mae ei naws unigryw a'i harddwch naturiol mor eithriadol fel y caiff ei gwarchod er budd y genedl.

Prosiect cael gwared ar iorwg Castell Pennard

Mae Castell Pennard sy'n edrych dros Bae y Tri Chlogwyn yn un o ddelweddau mwyaf adnabyddus Gŵyr. Clwb Golff Pennard sy'n berchen ar ac yn rheoli'r castell fel Heneb Gofrestredig.
Close Dewis iaith