Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gŵyr - datblygu cynaliadwy

Mae Partneriaeth yr AoHNE yn gweithredu cynllun grantiau bach sydd â'r nod o ddatblygu a phrofi ffyrdd o gyflawni ffordd fwy cynaliadwy o fyw ym mhenrhyn Gŵyr.

Cynllun Grant Cronfa Datblygu Cynaliadwy

Mae'r cynllun yn ceisio cadw a gwella nodweddion, y diwylliant, y bywyd gwyllt, y tirweddau, y defnydd o'r tir a'r cymunedau lleol. Mae cynnal lles cymdeithasol a hyfywedd economaidd cymunedau hefyd ymysg nodau pwysig y cynllun grant.

Asesir ceisiadau am symiau dros £3,000 gan banel o bedwar aelod lleol sy'n cwrdd bedair gwaith y flwyddyn.

Cyn cyflwyno cais, fe'ch cynghorir yn gryf i drafod eich syniadau â ni er mwyn sicrhau bod eich prosiect yn gymwys i gael ei ariannu. Cysylltwch â Mike Scott, Swyddog AoHNE, am fanylion y broses ymgeisio.

Close Dewis iaith