Toglo gwelededd dewislen symudol

Apeliadau cynllunio

Os ydych yn ceisio am ganiatâd i wneud gwaith i'ch eiddo ac nid yw'ch cais yn cael ei benderfynu o fewn cyfnod penodol, neu os ydych yn anghytuno â phenderfyniad eich cyngor lleol, mae gennych yr hawl i apelio.

Mae gennych yr hawl i apelio hefyd os ydych wedi derbyn rhybudd gorfodi.

Mae'r holl apeliadau'n cael eu gweinyddu, ar ran Llywodraeth Cymru, gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, sydd yn Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd.

Y broses apelio

Arolygwyr sy'n penderfynu ar y rhan fwyaf o apeliadau ond, pan fyddant yn cyflwyno adroddiad ar achos i Weinidogion Cymru, Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu ar yr apêl.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch apêl, caiff ei gwirio i sicrhau bod popeth mewn trefn. Bydd y swyddog achosion sy'n ymdrin â'ch achos yn eich hysbysu beth arall mae angen i chi ei wneud yn ystod y broses apelio a phryd. Pan fydd yr holl ddogfennaeth wedi'i chasglu ynghyd, bydd yr arolygydd yn ystyried yr holl dystiolaeth, gan roi sylw i'r canlynol:

  • y cynllun datblygu
  • polisïau lleol a chenedlaethol
  • eich datganiad achos
  • datganiad achos yr awdurdod lleol
  • sylwadau a wneir gennych chi ar ddatganiad yr awdurdod lleol ac i'r gwrthwyneb
  • sylwadau a gyflwynwyd gan unrhyw un arall

Ystyrir eich cais yn ôl ei deilyngdod. Dylai'ch datganiad gynnwys yr holl bwyntiau sy'n berthnasol yn eich barn chi, ond dylech geisio ei gadw mor gryno â phosib. Mae gan yr arolygydd a benodir i ymdrin â'ch apêl fynediad i'r holl bolisïau cynllunio cenedlaethol ac, os hoffech gyfeirio at un o'r rhain, dylech nodi'r paragraff(au) penodol yn y ddogfen(-nau) berthnasol yn unig.

Os penderfynir ar yr achos gan yr arolygydd, bydd y swyddog achosion yn anfon y penderfyniad atoch. Os nad yw'r arolygydd yn gwneud y penderfyniad, anfonir yr adroddiad at y swyddogion sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru a byddant hwy yn eich hysbysu o'r penderfyniad.

Cyflwyno apêl

Cyflwyno apêl a darganfod rhagor am y broses apeliadau: Apeliadau cynllunio (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith