Toglo gwelededd dewislen symudol

Archwiliadau iechyd a diogelwch

Cynhelir archwiliadau i sicrhau bod busnesau a gweithleoedd yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau.

Swyddog lleol fydd yn archwilio'r busnesau canlynol:

  • manwerthu
  • rhai warysau
  • y rhan fwyaf o swyddfeydd
  • gwestai
  • arlwyo
  • chwaraeon
  • hamdden
  • gwasanaethau defnyddwyr
  • mannau addoli

Swyddog o'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fydd yn archwilio pob busnes arall.

Rhesymau dros archwilio

  • nodi unrhyw beryglon ac asesu unrhyw risgiau 
  • asesu rheoliadau iechyd a diogelwch a'u heffeithiolrwydd
  • sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth iechyd a diogelwch
  • cynnig cyngor ac arweiniad.

Pryd cynhelir yr ymgynghoriad?

Fel arfer bydd y swyddog archwilio yn gwneud apwyntiad cyn ei ymweliad (er mae'n bosib na fydd hyn yn digwydd bob tro) gan y bydd angen siarad â'r person sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch y safle. 

Mae gan swyddogion archwilio hawl gyfreithiol i gael mynediad i'r safle ar bob adeg resymol. Mae gwrthod mynediad yn dramgwydd troseddol, a gosbir drwy ddirwy sylweddol neu gollfarn.

Pa mor aml y cynhelir archwiliadau?

Archwilir eiddo risg uchel unwaith y flwyddyn, ac archwilir eiddo risg isel yn llai aml neu byddant yn derbyn ffurflen hunanasesu iechyd a diogelwch i'w chwblhau. 

Gellir cynnal archwiliadau er mwyn ymateb i ddamwain neu gŵyn hefyd.

Close Dewis iaith