Cytundeb trwyddedu Parc Carafanau Bryn y Mwmbwls
Dylech ddarllen y cytundeb trwydded hwn yn ofalus ac yna llenwi'r ffurflen ar waelod y dudalen gyda gwybodaeth y trwyddedai.
GWNEIR Y CYTUNDEB HWN ar [dyddiad] RHWNG CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE, Y Ganolfan Ddinesig, Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel y "Cyngor") o'r un rhan a'r Prif Drwyddedeion fel y'u cwblhawyd isod (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel y "Trwyddedai") o'r rhan arall.
1. Diffiniadau a Dehongliadau
Yn y cytundeb hwn:
1.1 Ystyr "Y Tir" yw'r HOLL ddarn HWNNW o dir sydd ym Mharc Carafanau Bryn y Mwmbwls yn Ninas a Sir Abertawe ac a adwaenir fel Rhif Safle ar hynny at ddibenion adnabod yn unig
1.2 Ystyr "Y Maes Carafanau" yw'r tir a amlinellir yn las ar y cynllun
1.3 Ystyr "Y Cynllun" yw'r cynllun sydd wedi'i atodi i'r cytundeb hwn
1.4 Ystyr "Defnydd a Ganiateir" yw'r hawl i'r Trwyddedai barcio carafán ar y tir yn ystod cyfnod y drwydded
1.5 Ystyr "Cyfnod y Drwydded" yw'r cyfnod o flwyddyn o 1 Ebrill 2025
1.6 "Ffi'r Drwydded" fydd swm o £3,518.55 yn cynnwys TAW.
1.7 Mae geiriau sy'n dynodi un genedl yn dynodi unrhyw genedl arall, mae geiriau unigol yn dynodi'r lluosog ac i'r gwrthwyneb ac mae unrhyw gyfeiriad at berson yn cynnwys cyfeiriad at gwmni, awdurdod, bwrdd, adran neu gorff arall
2. Trwydded
Yn amodol ar gymalau 3 a 4 mae'r Cyngor yn rhoi'r hawl i'r Trwyddedai a phersonau eraill a awdurdodwyd gan y Trwyddedai fynd ar y tir yn ystod cyfnod y drwydded i gyflawni'r defnydd a ganiateir
3. Ymrwymiadau'r Trwyddedai
Mae'r Trwyddedai yn cytuno ar y canlynol ac yn ymrwymo i:
3.1 Dalu ffi'r drwydded ar y dyddiad hwn
3.2 Cyflwyno'r cytundeb hwn i Gyfarwyddwr Lleoedd y Cyngor neu ei gynrychiolydd awdurdodedig ar gais ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y drwydded
3.3 Cyflawni'r defnydd a ganiateir o fewn cyfnod y drwydded
3.4 Indemnio'r Cyngor yn erbyn yr holl rwymedigaethau, gweithredoedd, achosion, hawliadau, galwadau, costau a threuliau eraill, gan gynnwys, heb gyfyngiad, y rheini ar gyfer niwed personol, neu farwolaeth unrhyw berson neu niwed neu ddifrod i unrhyw eiddo go iawn neu eiddo personol, ni waeth sut bynnag y digwyddodd hynny, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o ganlyniad i ganiatáu'r drwydded hon, neu drwy unrhyw fethiant i gydymffurfio â'r amodau yn y drwydded hon, cyflwr y tir, wrth gyflawni'r defnydd a ganiateir
3.5 Cynnal gweithgareddau mewn ffordd nad yw'n achosi unrhyw ddifrod, aflonyddwch, annifyrrwch, niwsans neu anghyfleustra i'r Cyngor neu i ddeiliaid unrhyw garafán gyfagos yn y Parc Carafanau
3.6 Pan benderfynir ar y drwydded hon, symud y garafán oddi ar y tir a gwneud iawn am unrhyw ddifrod a achoswyd wrth symud y garafán, er boddhad y Cyngor
3.7 Talu unrhyw drethi y gellir eu hasesu mewn perthynas â'r garafán ac unrhyw Dreth Ar Werth neu dreth arall o natur debyg, os daw'n briodol drethadwy ar y tir
3.8 Sicrhau y bydd y garafán ar y tir yn drelar carafán olwynog wedi'i hadeiladu'n iawn nad yw'n fwy na 3.66 metr o led a 9.75 metr o hyd ac mewn cyflwr symudol
3.9 Peidio â defnyddio'r tir fel llety preswyl yn ystod y misoedd Ionawr a Chwefror
3.10 Sicrhau y bydd y garafán sydd ar y tir yn 1 metr o'r ffordd neu'r llwybr troed ac o leiaf 3 metr o garafanau cyfagos yn y Parc Carafanau
3.11 Sicrhau bod gan y garafán ar y tir dŷ bach wedi'i gysylltu â system ddraenio'r Cyngor
3.12 Peidio â golchi ceir na cherbydau eraill ar y tir
3.13 Cael gwared ar sbwriel ac ailgylchu yn y cynwysyddion a ddarperir gan y Cyngor a chadw'r tir yn lân a thaclus
3.14 Parcio ceir a cherbydau yn yr ardaloedd parcio dynodedig a ddarperir yn unig gan y Cyngor yn y Parc Carafanau
3.15 Peidio â gyrru car na cherbyd modur yn y Parc Carafanau dros 5mya
3.16 Peidio â gwerthu nwyddau na chynnal arwerthiant ar y tir nac yn y Parc Carafanau
3.17 Peidio â defnyddio'r tir fel llety preswyl parhaol
3.18 Peidio â chaniatáu i fwy nag 8 person, gan gynnwys plant, ddefnyddio'r tir
3.19 Peidio â chaniatáu i ymwelwyr ddefnyddio'r tir a'r garafán heb fod person(au) a enwir ar y drwydded yn bresennol
3.20 Peidio ag is-osod defnydd o'r tir a'r garafán dan unrhyw amgylchiadau
3.21 Arddangos rhif llain y garafán mewn lle amlwg ar y garafán sydd ar y tir
3.22 Cydymffurfio â phob rheol ac is-ddeddf statudol wrth gynnal y defnydd a ganiateir
3.23 Peidio â chodi unrhyw wal neu ffens na phlannu perth o gwmpas y tir
3.24 Talu'n brydlon y taliadau trydan a fesurwyd yn y garafán sydd ar y tir
3.25 Talu'n brydlon y cyfraddau dŵr, gan gynnwys ffïoedd sefydlog, ar gyfer garafán sydd ar y tir
3.26 Cydymffurfio â'r gofynion safonol ar gyfer gwresogyddion dŵr ebrwydd
3.27 Sicrhau bod gan y garafán y cyfarpar diffodd tân cywir, h.y. diffoddwr tân
4. Cyffredinol
4.1 Bydd yr hawl a roddir yng nghymal 2 yn pennu (heb beryglu hawliau'r Cyngor mewn perthynas ag unrhyw doriad o'r ymrwymiadau a gynhwysir yng nghymal 3) naill ai
(a) heb fod yn llai na saith niwrnod o rybudd yn ysgrifenedig, wedi'i gyflwyno gan y naill barti neu'r llall, y bydd rhybudd o'r fath yn cael ei gyflwyno ar y tir mewn perthynas â hysbysiad y Cyngor yn unig
(b) yn syth ar ôl derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan y Cyngor ar unrhyw adeg yn dilyn unrhyw doriad gan Drwyddedai o'i ymrwymiadau sy'n gynwysedig yng nghymal 3 ac
(c) yn achos naill ai 4.1 (a) neu 4.1 (b) uchod, bydd y Trwyddedai yn symud ei garafán o'r tir a'r Parc Carafanau o fewn saith niwrnod i ddyddiad yr hysbysiad dan sylw
4.2 Mae budd y drwydded hon yn bersonol i'r Trwyddedai ac nid yw'n drosglwyddadwy, a'r personau a nodir yng nghymal 2 yn unig sy'n gallu arfer yr hawliau a nodir yn y cymal hwnnw
4.3 Ni fydd y Cyngor yn atebol am farwolaeth neu anaf, neu ddifrod i unrhyw eiddo neu am unrhyw golledion, hawliadau, galwadau, gweithredoedd, achosion, iawndal, costau neu dreuliau neu atebolrwydd arall a gafwyd gan y Trwyddedai neu unrhyw berson y cyfeirir ato yng nghymal 2, wrth arfer neu honni arfer yr hawl a roddwyd gan gymal 2
4.4 Bydd Cyfarwyddwr Lleoedd y Cyngor neu ei asiant yn cynnal arolwg cyflwr blynyddol o garafán sydd ar y tir ac os yw'n peidio â phasio'r gofynion cyflwr fel a bennir gan y Cyngor yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, bydd y garafán yn cael ei symud o'r tir o fewn saith niwrnod i'r Cyngor yn cyflwyno rhybudd ysgrifenedig i'r Trwyddedai
4.5 Os bydd y naill barti neu'r llall yn cyflwyno hysbysiad i benderfynu ar y drwydded hon cyn diwedd cyfnod y drwydded lle nad yw'r Trwyddedai wedi torri'i ymrwymiadau yng nghymal 3, bydd y Cyngor yn ad-dalu cyfran o ffi'r drwydded ir Trwyddedai, wedi'i chyfrifo saith niwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno'r hysbysiad dan sylw
4.6 Os bydd y Cyngor yn cyflwyno hysbysiad i benderfynu ar y drwydded hon ac mae'r Trwyddedai yn peidio â symud ei garafán o'r tir o fewn y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad, mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i symud y garafán o'r tir a'r Parc Carafanau a bydd y costau yr aiff y Cyngor iddynt yn ddyled sy'n ddyledus i'r Cyngor gan y Trwyddedai
4.7 Os bydd y Cyngor neu ei swyddogion neu asiantau awdurdodedig yn arfer yr hawl yn unol â chymal 4.6 uchod ni fydd y Cyngor yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, beth bynnag yw'r amgylchiadau, sy'n deilio o symud y garafán o'r tir neu'r Parc Carafanau
5. Cyflafareddiad
Os bydd unrhyw gwestiwn, gwahaniaeth neu anghydfod yn codi ar unrhyw adeg rhwng y partïon ynghylch y drwydded hon mewn perthynas â'i lluniad neu o ran cyfrifoldebau, hawliau neu ddyletswyddau'r partïon dan y drwydded hon, cyfeirir yr anghydfod at gymrodeddu a chytunir ar y penderfyniad terfynol am y person rhwng y partïon neu os na bydd cytundeb o'r fath wedi'i gyrraedd o fewn 14 diwrnod ar ôl i'r naill barti roi cais ysgrifenedig i'r llall i gyd-weld â phenodiad o'r fath, penodir person ar gais ysgrifenedig y naill barti neu'r llall gan Lywydd neu Is-lywydd Sefydliad y Cyflafareddwyr am y tro, ar yr amod y bydd unrhyw un o'r achosion hyn yn ddarostyngedig i'r rheoliadau ar gyfer ymddygiad cyflafareddwyr a gyhoeddwyd ddiwethaf gan y sefydliad dan sylw ar ddyddiad penodiad o'r fath
6. Gwahardd Hawliau Trydydd Partïon
Nid yw'r Cyngor a'r Trwyddedai yn bwriadu i unrhyw un o delerau'r drwydded hon fod yn orfodadwy gan unrhyw drydydd parti, yn unol â Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1
7. Cyflwyno Hysbysiadau
Bydd unrhyw hysbysiad dan y drwydded yn ysgrifenedig. Bydd unrhyw hysbysiad i'r Cyngor yn cael ei gyflwyno'n ddigonol os caiff ei anfon at y Cyngor i sylw'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE drwy ddanfoniad wedi'i gofnodi neu wedi'i anfon drwy e-bost neu ffacs (ar yr amod bod copi cadarnhau yn cael ei anfon drwy ddanfoniad wedi'i gofnodi'r un diwrnod) a bydd unrhyw hysbysiad i'r Trwyddedai yn cael ei gyflwyno'n ddigonol os caiff ei ddanfon i'r tir a'i osod ar garafán. Ystyrir bod unrhyw hysbysiad a anfonir drwy'r post wedi'i roi pan fydd y post yn cael ei ddosbarthu i'r cyfeiriad hwnnw, ond mae unrhyw hysbysiad drwy e-bost neu ffacs i'w drin fel y'i cyflwynir ar y diwrnod y caiff ei anfon os caiff ei anfon cyn 5pm ac fel arall y diwrnod ar ôl gael ei anfon.
8. Trwydded
Er mwyn osgoi amheuaeth, cytunir trwy hyn rhwng y partïon fod y cytundeb hwn yn gyfystyr â thrwydded ac nid yw'n rhoi tenantiaeth i'r Trwyddedai, a bod y Cyngor yn cadw meddiant o'r tir yn amodol i'r hawl a grëwyd gan y drwydded hon