Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr diwrnodau gweithgareddau i deuluoedd
Diwrnodau difyr am ddim i'r teulu cyfan!
- Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
- Argymhellir i blant 3 i 10 oed.
- Gwisgwch ddillad cynnes ac esgidiau cyfforddus.
- Bydd gweithgareddau'n cynnwys: gemau, celf a chrefft, archwilio natur, adrodd straeon a chanu, mwynhau'r awyr agored drwy gydol y flwyddyn!
Ariennir y gweithgareddau drwy gronfa'r Grant Galluogi Cymunedau.
Efallai y bydd cyfle i brynu pecynnau gweithgareddau i deuluoedd, sy'n llawn syniadau ac adnoddau i barhau i chwarae tu fas fel teulu. Pris y pecynnau hyn yw £5 (rydym yn derbyn arian parod yn unig ar hyn o bryd). Does dim rhaid i chi brynu pecyn gweithgareddau.
Gallwch archebu hyd at 2 docyn fesul archeb. Mae lle i 20 plentyn fesul sesiwn. Does dim cyfyngiad ar nifer yr archebion rydych yn eu gwneud oni bai fod pob lle wedi'i lenwi ar gyfer y sesiwn.