Pa waith ydy'r tîm Craffu'n ei wneud ar hyn o bryd?
Darganfyddwch yr hyn mae'r tîm Craffu'n ei wneud.
Cewch y newyddion diweddaraf am waith presennol y tîm Craffu trwy ddarllen ein cylchlythyr misolYn agor mewn ffenest newydd. Gallwch danysgrifioYn agor mewn ffenest newydd i'n cylchlythyr i dderbyn y diweddaraf bob mis trwy e-bost.
Rydym hefyd yn ysgrifennu blogiauYn agor mewn ffenest newydd diddorol am ein gwaith.
Mae'r Rhaglen Waith Flynyddol yn nodi'r pynciau a drafodir gan ein Cynghorwyr Craffu bob blwyddyn. Gweler manylion rhaglen eleni isod.
Bydd adroddiad cynnydd ar yr holl weithgareddau craffu, ynghyd ag amserlen o'r cyfarfodydd i ddod, yn cael ei gynnwys yn agenda misol pob cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen GraffuYn agor mewn ffenest newydd.
Rhaglen Waith Craffu 2020-22
Ymchwiliad Craffu Cydraddoldeb
Roedd yr Ymchwiliad yn ystyried 'sut y gall y cyngor wella'r ffordd y mae'n bodloni ac yn ymgorffori'r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru 2011)'.