COAST - Animal Cwtch - Sglefrfyrddau a nadroedd
Ymunwch â ni am noson hollol unigryw gydag Animal Cwtch a'r cwmni buddiant cymunedol Boardability!
Dyma sesiwn AM DDIM sy'n cyfuno profiad uniongyrchol o anifeiliaid â chyfle i ddechreuwyr gael blas ar sglefrfyrddio - i gyd o dan yr unto. Gall plant a theuluoedd gwrdd â nadroedd, madfallod, cwningod a mwy mewn lleoliad tawel a chefnogol cyn rhoi cynnig ar weithgareddau sglefrfyrddio addasol mewn man diogel gyda hyfforddwyr profiadol.
Mae'r digwyddiad hwn yn hollol gynhwysol ac yn ddelfrydol i deuluoedd ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion synhwyraidd, neu unrhyw un sy'n chwilfrydig am anifeiliaid a sglefrfyrddio. Gallwch ddewis gwneud un o'r gweithgareddau neu'r ddau ohonynt - mae hyblygrwydd a hwyl!
Cadwch le yma: https://buytickets.at/animalcwtch/1782351
Un tocyn fesul plentyn (nid oes angen tocyn ar gyfer oedolion cysylltiedig). Mae lleoedd yn brin - rhaid cadw lle ymlaen llaw.
Lleoliad: Canolfan Evolve, Pontardulais Road, Gorseinon, Abertawe SA4 4FE.