Toglo gwelededd dewislen symudol

COAST - Grŵp Cymunedol ChromaMusic - Dydd Llun Cerddorol ym Mystwyr Abertawe

Dydd Llun 18 Awst 2025
Amser dechrau 13:30
16:00
Pris Am ddim

Mae croeso i bawb dros 50 oed.

Dydd Llun Cerddorol yn y Mystwyr (Eglwys Santes Fair), 11A St Mary's Square, Abertawe SA1 3LP.

Dewch i gael hwyl, darganfod doniau newydd a mwynhau cwrdd â phobl newydd!

Rhowch gynnig ar chwarae allweddell/piano, offerynnau taro neu glockenspiel. Dysgwch i berfformio fel band neu dewch i ymuno yn y canu.

Mae mynediad gwastad a thoiled i'r anabl a gallwn ddarparu cerddoriaeth print bras.

Os oes gennych unrhyw anabledd arall, cysylltwch â ni a gallwn drafod eich gofynion.

4 Awst 2025 - Chwarae drymiau Affricanaidd gyda One Heart Drummers, seibiant gyda lluniaeth, amser cerddoriaeth (dysgu i chwarae offeryn a chwarae neu ganu gyda'n gilydd).

11 Awst 2025 - Chwarae offerynnau taro tiwniedig gyda One Heart Drummers, seibiant gyda lluniaeth, amser cerddoriaeth.

18 Awst 2025 - Cael hwyl gyda chlychau llaw, seibiant gyda lluniaeth, amser cerddoriaeth.

Ebost: alida.watters@chromamusic.org

Ffôn: 07505 355087 neu 07799 258231

 

Amserau eraill ar Dydd Llun 18 Awst

Dim enghreifftiau o hyn
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu