Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am gamerâu cyflymder

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am gamerâu cyflymder.

Sawl camera cyflymder sydd ar waith ar hyn o bryd yn yr ardal a reolir gan y cyngor?

Gan Bwyll sy'n ymdrin â hyn, dan Heddlu Dyfed Powys.

Beth yw cyfanswm yr arian a wnaed o gamerâu cyflymder?

Nid yw Dinas a Sir Abertawe'n cadw'r wybodaeth hon. Bydd yr holl gosbau penodol a dalwyd gan droseddwyr yn cael eu talu i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi. Mae hefyd yn werth nodi y gellir talu am droseddau â chosb benodol, mynd ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder (drwy unrhyw gynllun cenedlaethol ailhyfforddi gyrwyr sy'n troseddu (NDORS) neu drwy'r llys.

Sawl camera CCTV y mae eich cyngor yn berchen arno i ddal gyrwyr sy'n torri deddfau traffig, a sawl un sydd ar waith ar hyn o bryd?

1 camera symudol.

Nodwch ble mae'r camerâu hyn a'r defnydd a fwriedir ar y safle? (e.e. dal gyrwyr sy'n gwneud troadau pedol/troadau anghyfreithlon i'r dde/defnyddio lôn fysus/troseddau cyffyrdd blwch melyn)

Troseddau parcio'n unig.

Sawl dirwy a roddwyd a faint o refeniw mae eich cyngor wedi'i ennill dros y pedair blynedd diwethaf o ganlyniad i'r camerâu hyn? 

Gweler: Adroddiadau blynyddol y gwasanaethau parcio

I ble clustnodwyd yr arian o'r dirwyon?

I gefnogi'r gwasanaeth gorfodi parcio a darparu mannau parcio oddi ar y stryd.

Close Dewis iaith