Chwilio'r wefan
English

Cerameg

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn enwog am ei chasgliad o grochenwaith a phorslen Abertawe.

Franz Anton Bustelli, The Tempestuous Lovers, 1760

Mae'r oriel hefyd yn cynnwys llawer o enghreifftiau gwreiddiol o grochenwaith a phorslen o Gymru, Lloegr, Ewrop a'r Dwyrain Pell a brynwyd gan Richard Glynn Vivian ac sydd erbyn hyn yn graidd casgliad llawer mwy sylweddol.

Yn y llun mawr gwelir Y Cariadon Tymhestlog, 1760, gan Franz Anton Bustelli (1754-63). Porslen past caled Nymphenburg, uchder 14.4. cm.

Erbyn heddiw, ystyrir mai Franz Anton Bustelli yw'r prif artist porslen rococo. Mewn llai na 9 mlynedd yn Nymphenburg, creodd tua 150 o fodelau, gan gynnwys ei ffigyrau byd-enwog o'r Commedia dell'Arte.

PDF Document Ceramics (PDF, 44KB)Yn agor mewn ffenest newydd

Wedi'i bweru gan GOSS iCM