Saunders Lewis
Dramodydd, beirniad llenyddol, sefydlydd Plaid Cymru
Saunders Lewis (g. 1893 - m. 1985)
Roedd Saunders Lewis yn fardd, yn ddramodydd, yn hanesydd, yn feirniad llenyddol ac yn weithredydd gwleidyddol o Gymru. Roedd yn genedlaetholwr blaenllaw ac yn un o sylfaenwyr Plaid Cymru. Cydnabyddir Lewis fel arfer fel un o lenorion Cymraeg mwyaf blaenllaw'r 20fed ganrif. Roedd yn enwebai llenyddiaeth am Wobr Nobel ym 1970 a daeth yn 10fed ym mhôl piniwn BBC Cymru yn 2005 i enwi'r Cymro gorau erioed.
Roedd Saunders Lewis yn byw am gyfnod (1916-24) mewn tŷ o'r enw Ffynone Villas ar yr hyn a fu'n Deras Ffynone gynt. Ers hynny, mae'r tŷ wedi'i ddymchwel a newidiwyd enw'r heol i Stryd Hanover.