Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ceri Richards

Artist

Ceri Richards blue plaque
Ceri Geraldus Richards (1903 - 1971).

Ganed Ceri Richard yn Nynfant i deulu dosbarth gweithiol hynod ddiwylliedig. Aeth i Ysgol Ganolradd Tregŵyr lle byddai'n tynnu lluniau drwy'r amser ac enillodd gystadlaethau celf lleol. Pan oedd yn 18 oed, cofrestrodd yng Ngholeg Celf Abertawe ac ym 1923 treuliodd amser yn Neuadd Gregynog yn edrych ar waith yr Argraffiadwyr Ffrengig, Rodin a darluniau'r hen feistri yn ogystal â rhai modern. Cadarnhaodd y profiad hwn ei ddyheadau i fod yn artist ac ym 1924 cyflwynodd gais llwyddiannus am ysgoloriaeth i astudio yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain.

Mae llawer o baentiadau Ceri Richards yng nghasgliad Tate Britain ac yn Oriel Gelf Glynn Vivian yma yn Abertawe. Gwnaeth ddehongliadau diddorol dros ben o gerdd Dylan Thomas, 'The force that through the green fuse (1933)'. Yng nghanol y 1940au, daeth cerddoriaeth yn thema yn ei waith sydd ddim yn syndod o ystyried y cafodd ei fagu mewn cartref lle dysgwyd yr holl blant i ganu'r piano ac ymgyfarwyddo â gwaith Bach a Handel. Treuliodd Richards y rhan fwyaf o'i amser yn Llundain ar ôl 1924 a bu farw yno ym 1971.

Fe'i hystyrir yn eang fel artist modern gorau Cymru'r 20fed ganrif.

Close Dewis iaith