Toglo gwelededd dewislen symudol

Clara Neal

Yn gyflwynedig i'r etholfreintiwr a'r ymgyrchydd dros hawliau i ferched

Clara Neal blue plaqueLleoliad y Plac: Wal flaen (lefel isaf) Ysgol Terrace Road, Norfolk Street

Ganed Clara Neal yn Nyfnaint ym 1870. Roedd hi'n bennaeth yn Ysgol Terrace Road, Abertawe o 1901 i 1921. Yn ystod yr amser hwn roedd hi'n weithgar iawn ym mudiad yr etholfreintwyr.

Roedd hi ymhlith y rheini a daflwyd allan am ofyn cwestiynau am y bleidlais i ferched i David Lloyd George mewn cyfarfod yn Neuadd Albert ym 1906. Roedd y digwyddiad annymunol hwn wedi'i hysgogi hi a'i chyfaill oes, Emily Phipps, i helpu i sefydlu cangen o'r Gynghrair Rhyddid i Ferched yn Abertawe. Roedd y ddwy ohonynt yn aelodau o'r pwyllgor a threfnon nhw eu cyfarfod eu hunain yn Neuadd Albert, Abertawe ym 1909. Er iddynt orfod wynebu grwpiau o ddynion yn curo drymiau, yn chwythu utgyrn ac yn tanio saethwyr pys, llwyddodd y siaradwyr i dynnu sylw'r dorf a'i hysbrydoli ac roedd y cyfarfod yn llwyddiant, felly hefyd Basiant y Merched Enwog, a ddaeth i Abertawe ym 1910 diolch i'r Gynghrair Rhyddid i Ferched.  Ym 1911, boicotiodd Clara Neal y cyfrifiad cenedlaethol drwy guddio dros nos mewn ogof ym mhenrhyn Gŵyr. Cymerodd ran mewn gwrthdystiadau heddychlon eraill fel etholfreintiwr yn ei gwaith gyda'r Gynghrair Rhyddid i Ferched yn y blynyddoedd canlynol. Mae'n rhaid ei bod hi felly wedi bod mor falch o gau'r ysgol am y prynhawn ym 1918 i roi cyfle i'w staff benywaidd gofrestru ar gyfer yr etholiad cyffredinol Prydeinig cyntaf erioed i roi peth hawliau pleidleisio i ferched. Daeth cydraddoldeb llawn gyda phleidleiswyr gwrywaidd yn ddiweddarach.

Ar ôl Terrace Road, daeth Clara Neal yn bennaeth Ysgol i Ferched Glanmor yn Abertawe ac ym 1927, daeth yn llywydd Undeb Cenedlaethol yr Athrawesau, a oedd yn ymladd am dâl ac amodau cyfartal i athrawesau. Mae'r plac wedi'i osod yn Ysgol Terrace Road i gofio am ei chysylltiad agos â'r ysgol yn ystod anterth y frwydr dros y bleidlais i ferched.