Toglo gwelededd dewislen symudol

Biniau olwynog ar gyfer busnesau

Gallwn ddarparu biniau gydag olwynion i storio'ch gwastraff busnes rhwng casgliadau. Mae amrywiaeth o feintiau ar gael i ddiwallu gofynion eich busnes.

Mae'r  gwasanaeth biniau yn ddelfrydol ar gyfer y busnesau hynny sydd â lle ar eu safle i symud a storio'r mathau hyn o finiau. Bydd angen i swyddog gwblhau asesiad addasrwydd cyn y gallwn ni ddarparu biniau. 

Bydd y tabl isod yn eich helpu chi i benderfynu ar ba fath o gynhwysydd fydd yn addas ar gyfer eich busnes. Dylech ddewis maint y cynhwysydd sydd yn addas ar gyfer swm y gwastraff mae'ch busnes yn ei gynhyrchu, nid ar sail pris.

Gwybodaeth am finiau olwynog
BinLledDyfnderUchder* Nifer y sachau (oddeutu)
360 litr62 cm86 cm107 cm5
660 litr126cm75.5 cm134 cm10
770 litr126 cm78.5 cm137 cm11
1100 litr126.5 cm98.5 cm137 cm15

*sachau gwastraff, cynhwysedd safonol 70 litr

Mae'r biniau'n cynnwys cloeon trionglog safonol a breciau troed ar yr olwynion blaen (nid yw'r biniau 360 litr yn cynnwys breciau).

Mae'n rhaid cyflwyno biniau gydag olwynion gyda'r caeadau ar gau ac wedi'u cloi. Mae'n rhaid i'r holl wastraff fod yn y bin. Ni fydd gwastraff wrth ymyl y biniau neu ar ben y biniau yn cael ei gasglu oni bai y cytunwyd ar hyn cyn y casgliad.

Terfynau pwysau biniau

Ni all y cerbyd godi biniau sy'n pwyso dros 500kg. Fel arfer bydd hyn ond yn digwydd os ydy'r bin yn cynnwys gwastraff bwyd neu rwbel ac nid ydym yn derbyn y rhain mewn biniau gwastraff cyffredinol. Os gwelwn fod busnes yn rhoi'r deunyddiau hyn mewn bin rydym yn cadw'r hawl i derfynu ei gontract ar unwaith..

Beth sy'n gallu mynd yn y bin gwastraff cyffredinol?

Holl ddeunyddiau na ellir eu hailgylchu ac eithrio rwbel, plastrfwrdd a gwastraff bwyd.