Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Bwyd mwy diogel, busnes gwell - copïau caled bellach ar gael

Pecyn rheoli diogelwch bwyd yw 'Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell' sydd ar gael i fwytai, caffis, siopau cludfwyd a busnesau arlwyo bach eraill fel y gallant gydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd.

Fe'i datblygwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, drwy weithio gyda busnesau arlwyo, i sicrhau ei fod yn ymarferol ac yn hawdd ei ddefnyddio.

Mae'n hanfodol bod y pecyn, a dyddiadur wedi'i ddiweddaru, ar gael yn ystod archwiliadau i sicrhau eich bod yn derbyn y sgôr hylendid bwyd uchaf posib.

Mae copïau caled o'r pecyn bellach ar gael i'w prynu.

  • Pecyn Arlwyo Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell sy'n cynnwys deufis o daflenni dyddiadur ychwanegol - £20.00
  • Pecyn Manwerthu Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell yn cynnwys deufis o daflenni dyddiadur ychwanegol - £20.00
  • Dyddiadur blwyddyn Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell yn unig - £17.50

Yn ychwanegol i'r pecyn Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell, rydym hefyd yn cynnig y cofnod hollgynhwysol wythnosol - cyflenwad blwyddyn £15.00

Os nad ydych chi'n siŵr pa becyn sydd ei angen arnoch, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Bwyd a Diogelwch.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu copïau o'r pecynnau sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim (Yn agor ffenestr newydd).

Close Dewis iaith