Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Caniatâd i osod Fframiau A/byrddau hysbysebu/arwyddion ar y briffordd

Os ydych am osod fframiau A, byrddau hysbysebu neu arwyddion ar y briffordd, bydd angen hawlen arnoch gennym.

Mae trwyddedu yn para am blwyddyn o'r dyddiad y cais.

Ni ddylid gosod fframiau A, byrddau hysbysebu nac arwyddion ar y briffordd cyn 7.30am neu ar ôl 9.30pm oni bai y rhoddir caniatâd penodol gan yr Awdurdod Priffyrdd.

Ni roddir hawlenni os yw'r lleoliad yn torri cyfyngiadau parcio neu'n mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau Deddf Priffyrdd 1980 neu ein polisi ar arwyddion hysbysebu a osodir ar y briffordd.

Rhaid cynnal llwybr clir i gerddwyr ar bob adeg.

Bydd angen i chi gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth o leiaf  £5 miliwn. Rhaid cyflwyno copi cyfredol o'ch tystysgrif yswiriant gyda'ch cais. Byddwch yn gallu lanlwytho fersiwn electronig fel rhan o'r ffurflen.

Caniatâd Dealledig

Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, e-bostiwch priffyrdd@abertawe.gov.uk.

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch cais, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch ni ar 01792 843330 neu e-bostwich priffyrdd@abertawe.gov.uk