Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Trwydded caffi palmant

Mae Trwydded Caffi Palmant yn galluogi busnesau i ddarparu ardaloedd eistedd awyr agored dynodedig yn unig er mwyn i'w cwsmeriaid allu bwyta ac yfed.

Os hoffech osod byrddau, cadeiriau ac ymbarelau neu unrhyw eitemau eraill ar y palmentydd neu mewn ardaloedd i gerddwyr i fwyta bwyd neu yfed diodydd, rhaid i chi gyflwyno cais am Drwydded Caffi Palmant.

Rydym wedi cynhyrchu  arweiniad i'ch helpu i sefydlu caffi ar y palmant a gwneud cais am drwydded neu femorandwm caffi palmant (PDF) [404KB].

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Er y gwnaed rhai newidiadau i'r broses o gael Trwydded Caffi Palmant, er mwyn cyflymu'r broses a'i gwneud yn fwy fforddiadwy, mae angen i bob Caffi Palmant fod yn ddiogel ac yn hygyrch, ac mae angen sicrhau nad ydynt yn rhwystro mynediad i gerddwyr, pobl sy'n defnyddio cadair olwyn a'r rheini â nam ar y golwg.

Sut i gyflwyno cais

Rydym wedi cyflwyno gweithdrefn ymgeisio newydd a fydd yn caniatáu i bob ymgeisydd newydd llwyddiannus greu ardal eistedd awyr agored ar gyfer cyfnod o 12 mis.

Bydd angen i chi wneud cais am hyn drwy ddefnyddio'n ffurflen gais isod.

Ar ôl derbyn eich cais, bydd yr Adran Priffyrdd yn cysylltu â chi i drafod eich ardal awyr agored. Peidiwch â rhoi unrhyw eitemau y tu allan nes bod eich cais wedi'i gymeradwyo.

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid cynnal cyfnod ymgynghori 28 niwrnod ar gyfer unrhyw ardal eistedd awyr agored newydd ar y briffordd. Gallwch barhau i ddefnyddio'ch lle awyr agored yn ystod y cyfnod hwn, yn amodol ar amodau a thelerau.

Sylwer, os bydd Cyngor Abertawe yn derbyn unrhyw wrthwynebiadau dilys i'r defnydd o'r ardal eistedd yn eich mangre, gallwn adolygu, diwygio neu ddirymu'r cais.

Bydd y drwydded caffi palmant yn caniatáu i ymgeiswyr osod byrddau a chadeiriau ar y briffordd rhwng 7.30am ac 11.00pm.

Mae'r Memorandwm o Gytundeb yn amodol ar nifer o amodau a thelerau ac fe'ch cynghorir i'w darllen yn llawn, oherwydd gall peidio â'u cadw arwain at ddiddymu eich cais.

Ffïoedd

Codir ffïoedd yn seiliedig ar nifer y cadeiriau a gwmpesir gan eich trwydded a lleoliad eich caffi palmant.

Lleoliad caffi palmantFfi fesul cadair
Troedffordd£50.00

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach mewn perthynas â'r mater hwn, cysylltwch â'r Adran Priffyrdd drwy e-bostio: Priffyrdd.