Cylchynau hedegog wedi'u gwahardd ar draethau'r cyngor
Teganau plastig meddal sy'n edrych fel ffrisbis yw cylchynau hedegog, ond gallant fod yn beryglus iawn i forloi. Mae morloi, yn enwedig rhai ifanc, yn chwilfrydig ac weithiau'n cael eu pennau'n sownd yn y cylchynau hyn.
Pan fyddant yn sownd, gall y cylchyn dorri eu croen ac achosi poen, haint a hyd yn oed marwolaeth. Yn anffodus, mae'r cylchynau hyn yn aml yn cael eu gadael neu eu colli ar draethau, lle gallant gyrraedd y môr a niweidio bywyd gwyllt. Mae Grŵp Morloi Gŵyr, grŵp gwirfoddol lleol, wedi bod yn gweithio'n galed i gynyddu ymwybyddiaeth, glanhau traethau ac ymgysylltu â busnesau i'w hatal rhag gwerthu'r eitemau niweidiol hyn.
I gefnogi Grŵp Morloi Gŵyr ac i helpu i amddiffyn morloi ac anifeiliaid morol eraill, cymeradwyodd Cyngor Abertawe hysbysiad o gynnig i wahardd cylchynau hedegog yn wirfoddol ar bob traeth sy'n eiddo i'r cyngor. Mae'r traethau hyn yn cynnwys Bae Abertawe, Bae Bracelet, Bae Limeslade, Bae Rotherslade, Bae Langland, Bae Caswell a Thraeth Porth Einon. Anogir ymwelwyr a phobl leol i ddefnyddio ffrisbis solet yn unig i helpu i gadw'n harfordir yn ddiogel ar gyfer morloi.
Os byddwch yn dod o hyd i gylchyn plastig ar ein traethau neu yn rhywle arall, torrwch ac ailgylchwch ef.