Caniatâd landlord adeilad/cyfleusterau ysgol
Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i adeilad/safle'ch ysgol, neu os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw waith gan ddefnyddio contractwr allanol, rhaid i chi lenwi ffurflen cais caniatâd landlord.
Mae hyn yn ofynnol ar gyfer pob math o waith adeiladu (gwaith adeiladu fel y'i diffinnir yn Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015*), fel ailfodelu mewnol, newid adeiladau a chodi estyniadau, gwaith adnewyddu a ffenestri newydd; gwaith allanol fel sylfeini, ffensys, offer chwarae, caeau pob tywydd, isadeiledd priffyrdd o fewn ffiniau ysgolion, blychau adar, gwelyau plannu, llwybrau cyfarpar cadw'n iach a heini, llochesi, gasebos etc.; a'r holl waith TGCh, nad yw'n cael ei wneud gan y Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol.
Os bydd y gwaith yn cael ei wneud gan y Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol bydd angen gwneud cais o hyd ar gyfer rhai prosiectau i'n galluogi i ystyried er enghraifft yr effaith ar adnoddau, diogelu a goblygiadau ariannol a rhoi'r gefnogaeth gywir i chi.
Os nad yw'r gwaith yn cael ei wneud gan y GAC, yna bydd cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â phrosiect yn amodol ar benodi arbenigedd technegol â chymwysterau addas, gan gynnwys ar gyfer dylunio a rheoli'r prosiect ac i gyflawni rôl cleient ADRh, cydymffurfio a chwblhau'r datganiad. Cyn gwneud apwyntiad dylech ofyn am gyngor gan y GAC yn hyn o beth.
Os ydych yn bwriadu defnyddio'r GAC, fe'ch cynghorir i drafod y prosiect â'ch syrfëwr cyn gynted â phosib fel y gellir sefydlu amserlen debygol a dyrannu adnoddau dros dro.
Os ydych chi'n bwriadu gwneud gwaith mân efallai na fydd angen i chi gwblhau'r ffurflen ar-lein - ffoniwch Kevin Webb ar 07900 702786 neu e-bostiwch Rheoli.Cyfleusterau@abertawe.gov.uk i wirio a oes angen caniatâd ar gyfer y cynllun arfaethedig.
Cynghorir ysgolion i gyflwyno cais cyn buddsoddi mewn unrhyw waith cwmpasu a dylunio manwl, ac ymhell cyn yr adeg y bwriedir gwneud y gwaith. Bydd hyn yn galluogi'r awdurdod i ddarparu cyngor amserol, ac er mwyn i'r ysgol osgoi wynebu costau ofer.
Ar ben hynny, bydd pob cais yn cael ei ystyried fesul achos. Ni fydd rhai prosiectau mwy neu fwy cymhleth yn cael eu cymeradwyo oni bai fod y Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol yn cael eu cyflogi i ddylunio, caffael a rheoli'r prosiect o ddechrau'r prosiect hyd at ei gwblhau, am resymau iechyd a diogelwch.
Gallwch gyflwyno cais cychwynnol neu derfynol gan ddibynnu ar ba gam yr ydych; os ydych yn cyflwyno cais cychwynnol yn gynnar yna mae'n bosib na fydd gennych yr holl wybodaeth fanwl. Fodd bynnag, cyn i chi ymrwymo i gontract ar gyfer y gwaith, mae'n rhaid eich bod wedi cyflwyno cais terfynol llawn a bod hwnnw wedi'i gymeradwyo.
Proses caniatâd landlordiaid ar gyfer prosiectau ysgol (PDF, 126 KB)
Prosiectau ysgol a chaniatâd landlord - arweiniad (Word doc, 1 MB)
Prosiectau ysgol a chaniatâd landlord - yr wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer y ffurflen ar-lein (Word doc, 34 KB) (PEIDIWCH Â chwblhau hwn fel ffurflen gais, mae hwn er gwybodaeth yn unig. Rhaid i chi gyflwyno cais drwy'r wefan.)
Pethau i'w hystyried cyn i chi wneud cais
Dylid ystyried y canlynol (bydd gofyn i chi ddangos/ddarparu tystiolaeth o hyn, felly sicrhewch fod y dystiolaeth wrth law cyn i chi ddechrau):
- Yr effaith ar y safle/adeiladau
- Yr effaith ar niferoedd
- Yr effaith ar weithrediad y safle a'r adeiladau
- Yr effaith ar ddiogelu
- Gofynion iechyd, diogelwch a diogelu
- A fydd angen caniatâd cynllunio Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) a chymeradwyaeth rheoliadau adeiladu?
- A oes angen prawf pridd?
- A fydd angen goleuadau/trydan/dŵr/draeniad ychwanegol arnaf?
- A fydd yn effeithio ar fywyd gwyllt (cael gwared ar wrychoedd, coed etc.?)/ yn effeithio ar yr amgylchedd?
- A fydd hyn yn effeithio ar ein polisi yswiriant?
- A fydd yn effeithio ar brosesau dianc rhag tân yn yr adeilad?
- Pa ddewisiadau eraill sydd wedi'u hystyried h.y. a ymchwiliwyd i opsiynau ac ai'r ffordd ymlaen a ffefrir yw'r opsiwn gorau sy'n cyflawni'r nodau orau, ac yn rhoi gwerth am arian?
- Y costau refeniw cychwynnol a pharhaus - a yw'r costau amcangyfrifedig hynny'n cynnwys popeth?
- Beth yw'r costau cychwynnol a sut cânt eu hariannu?
- Sut bydd y costau refeniw parhaus yn cael eu hariannu?
- A fydd y gwaith yn arwain at yr angen i sefydlu contract cynnal a chadw blynyddol?
Ystyriaethau ariannol
I grynhoi, dylai ysgolion baratoi adroddiad RhGA7 os yw gwerth y cynllun yn fwy na £150,000, a fydd yn amodol ar gymeradwyaeth pwerau dirprwyedig gan y Cyfarwyddwr/Pennaeth y Gwasanaeth, Aelod y Cabinet, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Pennaeth Cyllid. (Rhaid dosbarthu'r adroddiad i brif gyfrifwyr, swyddog cyfreithiol a swyddog mynediad at wasanaethau i'w adolygu cyn ei gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth pwerau dirprwyedig.)
Os yw cynllun yn fwy na £1 filiwn, mae angen cymeradwyaeth y Cabinet ar ei gyfer. Os yw cynllun yn llai na £150,000, mae e-bost at y Prif Gyfrifydd Cyfalaf sy'n esbonio'r cynllun a sut caiff ei ariannu ac sy'n dweud bod ganddo gymeradwyaeth gan y Pennaeth Gwasanaeth/Cyfarwyddwr yn ddigonol, gyda'r Aelod Cabinet yn cael ei hysbysu.
Sylwer, mewn rhai achosion lle mae gwerth y prosiect yn llai na £1 filiwn, y gellir ei gyfeirio o hyd at y Cabinet am benderfyniad. Os bydd hynny'n digwydd, caiff yr amserlen ei hymestyn ar gyfer y broses cymeradwyo'r adroddiad.
Os oes mwy nag un prosiect yn cael ei gynnal ar yr un pryd, a bod pob un yn llai na £150,000, bydd angen RhGA7 o hyd os yw'r cyfanswm cyfunol yn fwy na £150,000.
Mae adroddiad RhGA7 yn adroddiad sy'n ceisio cymeradwyaeth i neilltuo cyllid i'r rhaglen gyfalaf ac felly dylid drafftio hyn yn gynnar er mwyn sicrhau bod cymeradwyaethau ar waith mewn da bryd cyn neilltuo'r cyllid.
Mae'n RHAID i RhGA7 cymeradwy fod ar waith CYN y gellir rhoi cymeradwyaeth i neilltuo cyllid a dechrau ar y gwaith.