Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithio Abertawe - Canllaw ysgrifennu CV

Beth i'w gynnwys yn eich CV.

  • Yr hyn y dylwn ei ysgrifennu
  • Sut ydw i'n gosod fy CV ar y dudalen a dewis y fformat cywir?
  • Sut ydw i'n sicrhau bod fy CV yn cyfleu'r naws gywir?

Ysgrifennu eich CV

Wrth ysgrifennu eich CV, mae'n bwysig deall eich hunan, ond mae hefyd yr un mor bwysig deall y swydd rydych yn gwneud cais ar ei chyfer.

Ni ddylai eich CV fod yn hirach nag 1 neu 2 dudalen, a dylai  cynnwys yr holl briodoleddau rydych yn eu gwerthfawrogi.

Bydd swyddi penodol yn profi eich priodoleddau mewn gwahanol ffyrdd a dylech gymharu eich sgiliau eich hun ar y pwynt hwn. Bydd hefyd angen i chi ystyried eich gwendidau, a gallwch gyfeirio at y rhain eich hun, ond dylech ganolbwyntio ar eich addasrwydd proffesiynol sydd ei angen ar gyfer y swydd.

 

Hudoliaeth a Dewiniaeth

Gall teilwra eich addasrwydd fod yn anodd, fodd bynnag, rwy'n sicr y bydd eich prif gryfderau'n bodloni naill ai un neu ddau o ofynion y rôl neu bob un ohonynt.

Ewch ar drywydd y priodoleddau a ddisgrifir yn Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts, fel a amlinellir isod yn llyfrau Harri Potter.

Ym mha dŷ ydych chi?  

LLEUREUROLtŷ'r bobl fentrus a dewr.

CRAFANGFRAN -  tŷ'r bobl ddoeth.

WFFTIPWFF - tŷ'r bobl ffyddlon a theg

SLAFENNOG -  tŷ'r bobl uchelgeisiol a chyfrwys

 

P'un a ydych chi'n meddu ar sgiliau arwain a thywys pobl eraill neu'n nofis neu'n aelod newydd o'r tîm, tynnwch sylw at eich doniau, heb wadiad neu ofn neu ragfarn at un neu'r llall. Bydd hynny'n dal sylw'r gynulleidfa a'r swydd gywir i chi. Cofiwch mai eich CV chi yw hwn, ac nid eu CV nhw. Rydych chi'n unigryw ac yn fedrus a heb os nac oni bai mae hynny'n werthfawr iawn. Pam na fyddai'r cyflogwr am gael aelod ychwanegol yn y tîm a all ennill pwyntiau ychwanegol?

 

Yr hyn y dylech ei gynnwys ar frig eich CV

Eich enw

Eich cyfeiriad

Eich rhif ffôn symudol (neu rif llinell dir)

Cyfeiriad e-bost synhwyrol. Dylech greu un sy'n cynnwys eich enw, eich cyfenw a rhifau neu lythrennau sy'n cyfateb i hynny.

Dyma enghraifft o gyfeiriad e-bost gwael: ellyllfirebolt@abertawe.gov.uk. Nid yw hynny'n edrych yn broffesiynol iawn.

Gallwch hyd yn oed gynnwys dolen ar gyfer unrhyw waith digidol dewinol rydych wedi ei gynhyrchu er mwyn arddangos eich CV estynedig ar-lein. Efallai bod gennych broffil LinkedIn gyda phortffolio estynedig o bob swydd rydych wedi ei wneud, neu Instagram i arddangos eich gwaith proffesiynol.

Peidiwch â chynnwys pethau megis eich dyddiad geni, eich oedran presennol, eich rhif yswiriant gwladol neu eich manylion banc. Yn anffodus, mae dewiniaid drwg ar-lein sy'n gallu cael mynediad at yr wybodaeth hon.

Peidiwch â chynnwys gwybodaeth amherthnasol yn yr adran hon. Nid oes angen i'ch cyflogwr wybod os oes gennych obsesiwn â chasglu ellyllon. Oni bai eich bod chi'n gwybod am ffaith fod ganddynt yr un diddordebau.

 

Eich datganiad personol

Dylech ganolbwyntio ar y swydd rydych chi'n gwneud cais ar ei chyfer. Dylai brawddeg gyntaf eich datganiad personol roi gwybod i'r cyflogwr yn syth am y profiad sydd gennych ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais ar ei chyfer. Dylech osgoi defnyddio geiriau digyffro sy'n cael eu gorddefnyddio mewn CVs nodweddiadol. Er bod y geiriau 'Cymwys, medrus a dibynadwy,' yn briodoleddau pwysig ar gyfer unrhyw swydd, yn anffodus caiff y geiriau eu gorddefnyddio mewn datganiadau personol ac nid ydynt yn cyfleu unigolrwydd. Gwnewch eich CV yn bersonol. Meddyliwch am y swydd a'r ffaith bod y cyflogwr am gael ei swyno gan eich personoliaeth - mae'r cyflogwr am wybod mai y chi yw'r person gorau ar gyfer y swydd. Mae'r cyflogwr am weld a ydych chi'n gallu dilyn ei reolau tŷ a'i werthoedd, a chyflawni ei ofynion. Ymchwiliwch i'r cyflogwr ar gyfer yr adran hon.

 

Sgiliau allweddol

Yn union fel hud a lledrith, mae sgiliau allweddol gan bob un ohonom. Yn bersonol, rwy'n hoffi amlygu'r sgiliau hyn i sicrhau bod y cyflogwr yn gwybod mai fi yw'r person gorau am y swydd. Mae'r sgiliau hyn yn tynnu sylw at eich deallusrwydd er mwyn dal llygad y cyflogwr. Dylech gynnwys nifer o bwyntiau bwled yma i wella'ch cyfle o oroesi'r broses ddethol. Ni chaiff y ffaith eich bod wedi brwydro i ennill y sgiliau hyn ei ystyried yn wendid. Yma, tynnwch sylw at yr holl ofynion allweddol ar gyfer y swydd. Os ydych chi'n eglur yma, gallwch swyno'r cyflogwr i adolygu gweddill eich CV ac mae'n cynnig sicrwydd o'ch gwerth i'r cyflogwr.

 

Hanes/Profiad Gwaith

Mae'r adran hon yn hollbwysig. Mae'n tynnu sylw at eich dealltwriaeth o sgiliau hudol. Bydd cyfnodau da a gwael yn ystod eich gyrfa, ac efallai na fyddant yn berthnasol i'r swydd rydych yn gwneud cais ar ei chyfer. Fodd bynnag, mae eich holl brofiadau'n drosglwyddadwy ac o werth. 

Dylai eich hanes gwaith, cyflogaeth a lleoliadau gynnwys y 10 mlynedd diwethaf yn unig. Er enghraifft, nid yw swyddi TG o 10 mlynedd yn ôl yn berthnasol bellach gan fod systemau a phobl yn newid. Mae treulio amser yn gofalu am deulu yn fwlch a all fod o bryder i chi yn yr adran hon. Fodd bynnag, mae'r bwlch hwn yn eich gyrfa yn bwysig a bydd cyflogwr yn deall hynny. Dylech ystyried cyfnodau fel hyn yn rhywbeth cadarnhaol er mwyn sefydlu'r hyn sydd gennych i'w cynnig.  Peidiwch â gadael unrhyw fylchau yn ystod y cyfnod o 10 mlynedd.

Dechreuwch drwy nodi eich rôl a'ch cyflogwr, ac yna drwy gynnwys y mis a'r flwyddyn y dechreuoch chi ym mhob swydd a phryd y daeth y swydd i ben. Yna, o dan bob swydd, dechreuwch nodi'r dyletswyddau mewn pwyntiau bwled, gan roi esboniad cynhwysfawr o ofynion y swydd.

 

Cymwysterau/Addysg

Mae eich addysg yn ehangu drwy'r amser a dylech fod yn ddiolchgar am hynny. Yn yr adran hon, dylech ganolbwyntio ar yr hyn rydych wedi'i gyflawni'n fewnol yn ddiweddar ac unrhyw bwyntiau rydych wedi'u hennill gan gyflogwyr blaenorol neu mewn rhinwedd proffesiynol, coleg neu ysgol yn ddiweddar. A wnaethoch chi'n wych yn ystod eich gwers Amddiffyn Rhag y Gelfyddyd Ddu ddiweddaraf?

Po fwyaf perthnasol yw'ch addysg ar gyfer y swydd, gorau oll Cofiwch gynnwys enw'r ysgol neu'r coleg a hefyd y flwyddyn berthnasol y gwnaethoch gwblhau'r hyfforddiant.

 

Hobïau a diddordebau

Nid yw'r adran hon yn hanfodol ym mhob CV. Fodd bynnag, i'r rheini sy'n ddigon medrus, dyma'ch cyfle i ymchwilio i chwaraeon a gweithgareddau celf allgyrsiol y cwmni a all fod o ddiddordeb i chi hefyd. Ydy'r cyflogwr yn mwynhau chwarae Quidditch? Gwiriwch eu gwefannau am yr wybodaeth hon. Mae'n bwysig nodi hobïau a diddordebau eraill hefyd. Mae hobïau a diddordebau'n ffordd dda o ddangos eich sgiliau ffitrwydd unigryw neu hyd yn oed eich gallu i goginio. Mae pawb yn hoffi pobydd da!

 

Llyfryddiaeth

Ni ddylai cael gafael ar eirdaon fod yn rhy anodd. Yn enwedig i'r rheini sydd wedi bod yn hael i'w holl gyflogwyr yn y gorffennol. Unwaith y byddant yn ymwybodol o'ch etheg waith ac yn ei deall, mae'n ddiogel dweud y byddwch yn derbyn cefnogaeth dda. Os ydych chi'n ymddwyn yn broffesiynol, yn chwilfrydig ac yn garedig i bob person rydych yn cwrdd ag ef, byddant yn eich cofio mewn ffordd gadarnhaol. Fel arfer bydd y cyflogwr yn gofyn am ddau eirda yn amodol ar gynnig swydd. Oni nodir yn wahanol ar y ffurflen gais.

Close Dewis iaith