Canolfan Cam-drin Domestig
Mae'r Ganolfan Cam-drin Domestig yn dylynu ac yn cyflwyno ymateb amlochrog at gam-drin domestig mewn teuluoedd. Mae'r swyddogaethau allweddol yn cynnwys:
- Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth: Darparu cefnogaeth amserol a phriodol i deuluoedd lle mae pryder ynghylch cam-drin domestig.
- Rhaglen Ecwilibriwm: Ymyrraeth newid ymddygiad ar gyfer unigolion sy'n euog o gam-drin domestig.
- Cefnogaeth i ddioddefwyr / goroeswyr a phobl ifanc: Cyflwyno ymyriadau un-i-un a chefnogaeth grŵp i helpu unigolion i ailadeiladu diogelwch a lles.
- Rhaglen Gwrthwynebiad Di-drais: Ymagwedd at fagu plant sy'n cefnogi gofalwyr wrth iddynt ymateb i drais plentyn yn erbyn rhiant a gwella perthnasoedd teulu.
- Ymateb i Hysbysiadau Diogelu'r Heddlu lle nodir mai cam-drin domestig yw'r rheswm dros gynnwys yr heddlu.
- Sicrhau bod yr holl gysylltiadau cam-drin domestig yn cael eu hadolygu gan weithiwr cymdeithasol cymwys yn y ganolfan a fydd yn asesu risg ac yn penderfynu ar y camau nesaf.
Eiriolwr Annibynnol ar Drais Domestig sy'n gweithio'n agos gyda'r ganolfan. Maent yn darparu cefnogaeth arbenigol i ddioddefwyr risk uchel cam-drin domestig gan gynnwys cynllunio ar gyfer diogelwch, eiriolaeth a chydlyniad amlasiantaeth.
- Enw
- Canolfan Cam-drin Domestig
- E-bost
- DomesticAbuseHub@abertawe.gov.uk
- Rhif ffôn
- 01792 635700
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 04 Medi 2025