Toglo gwelededd dewislen symudol

Canolfan Gymunedol West Cross

Rhodfa Linden, West Cross, Abertawe, SA3 5LE. Mae'r ganolfan gymunedol hon hefyd yn un o Leoedd Llesol Abertawe.

Lle Llesol Abertawe - Cyngor Cymuned y Mwmbwls

Yr Hwb Cynnes (Amser te dydd Gwener gyda ffrindiau), ar agor o 4.30pm i 7.00pm ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis.

Yn ogystal, cynhelir Cwis Cymunedol (mynediad am ddim) ar drydydd dydd Gwener y mis o 7.30pm tan 10.00pm.

Mae'r ganolfan gymunedol ar agor i ddarparu croeso cynnes, cawl twym a rholiau a diodydd a lluniaeth. Mae pobl gyfeillgar sy'n hapus i gael sgwrs, teganau i blant a mynediad at WiFi ar gyfer y rheini y mae angen iddynt wneud gwaith neu waith cartref. Cynhelir gweithgareddau ar rai wythnosau fel crefftau, gemau bwrdd a mwy. Ar drydedd nos Wener y mis rydym yn agor i'r gymuned ar gyfer Cwis Cymunedol - mae croeso i bawb, am ddim!

  • WiFi am ddim
  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau / toiledau hygyrch
  • Mannau parcio ceir / parcio i'r anabl
  • Teganau i blant
  • Gemau / gemau bwrdd
  • Mae lluniaeth ar gael
    • mae'r holl luniaeth am ddim - diodydd poeth a byrbrydau
  • Dŵr yfed ar gael
  • Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
    • bydd cynghorwyr dinas a chynghorwyr cymuned yn bresennol a gallant gynnig cefnogaeth o ran mynd i'r afael â materion lleol. Gallwn hefyd gysylltu pobl â'r pwynt cyswllt cywir.

E-bost: phil.keeton@mumbles.gov.uk
Rhif ffôn: 07724 437 865

Cyfleusterau

  • Prif neuadd
  • Neuadd chwaraeon
  • Ystafell gyfarfod
  • Cegin
  • Wifi
  • Parcio

Cyrraedd y ganolfan

Enw
Canolfan Gymunedol West Cross
Rhif ffôn
01792 402935

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Medi 2024