Toglo gwelededd dewislen symudol

Clefydau heintus

Gwybodaeth a chyngor am glefydau heintus ac atal eu hymlediad.

Mae clefydau heintus yn cael eu hachosi gan organebau byw fel firysau, bacteria a ffyngau. Gallant ymledu trwy gyswllt â pherson arall, trwy'r awyr, trwy fwyd halogedig neu wrth iddynt ddod i gysylltiad â gwaed halogedig neu hylifau corfforol. Mae plant a phobl oedrannus yn tueddu i fod â system imiwnedd wannach felly gallant fynd yn sâl yn haws.

Cadw'ch hun a phobl eraill yn ddiogel rhag clefydau heintus

Mae nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i leihau'r risg o ddal clefyd heintus neu ei drosglwyddo i rywun arall:

  • golchwch eich dwylo'n rheolaidd
  • dylech ddal unrhyw besychiadau neu disiadau mewn hances bapur, a dylid cael gwared ar hon mewn bin
  • gorchuddiwch unrhyw gwtau
  • gwnewch yn siŵr bod bwyd wedi'i goginio'n iawn
  • paratowch eich bwyd ar arwyneb gwaith glân a defnyddiwch gyfarpar glân
  • arhoswch gartref os ydych chi'n sâl
  • sicrhewch eich bod yn cadw i fyny â brechiadau
  • os ydych chi'n teithio dramor gwiriwch a oes unrhyw glefydau cyffredin neu a oes angen brechiad arnoch chi. Gallwch wirio pa frechlynnau y gallai fod eu hangen arnoch ar wefan MASTA.

Gwybodaeth am glefydau heintus

Gwybodaeth am heintiau gan Lywodraeth Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Clefydau heintus: gwybodaeth fanwl gan Gov.uk (Yn agor ffenestr newydd)

Arweiniad ar atal a rheoli heintiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru arweiniad ar atal a rheoli heintiau ar gyfer lleoliadau, sefyllfaoedd a heintiau penodol. Mae'r rhain yn cynnwys cartrefi gofal, lleoliadau gofal plant ac addysgol, lleoliadau gofal iechyd a charchardai.

Atal a rheoli heintiau: Arweiniad ar gyfer lleoliadau, sefyllfaoedd a heintiau penodol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Arweiniad rheoli heintiau ar gyfer cartrefi gofal

Norofeirws: rheoli achosion mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol acíwt a chymunedol Gov.uk (Yn agor ffenestr newydd)

Arweiniad rheoli heintiau pellach ar gyfer gofal plant a meithrinfeydd

Rheoliadau a safonau gofynnol cenedlaethol: gwasanaethau gofal plant a chwarae gan Arolygiaeth Gofal Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith