Cludian cymunedol
Mae Cludiant Cymunedol yn darparu cyfleoedd teithio i bobl nad ydynt yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus arferol, neu sy'n byw mewn ardal nad yw'n cael ei gwasanaethu'n aml gan gludiant cyhoeddus, neu'r rheiny ag anabledd.
Trafnidiaeth gymunedol seiliedig ar alw a gwasanaethau tacsi yn ne-orllewin Cymru - dweud eich dweud
Gall gael ei ddefnyddio hefydd gan bobl sydd wedi'u hynysu'n gymdeithasol na allant gaeel mynediad i wasanaethau a chyfleusterau cyhoeddus sylfaenol, megis gwasanaethau gofal iechyd, cyflogaeth a hyfforddiant.
Mae rhai gwasanaethau'n cynnwys gweithlu o wirfoddolwr ymroddedig sy'n rhoi o'u hamser i helpu pobl eraill drwy ddarparu gwasanaethau cludiant. Mae pob un yn gweithredu mewn ffordd sy'n fwyaf addas i'w ardal leol a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.