Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am Orchmynion Cadw Coed (GCC)

Cwestiynau cyffredin am GCC a choed a warchodir.

Sut gallaf wirio a warchodir fy nghoeden?

Cysylltwch â ni i weld a yw coeden wedi'i gwarchod.

Ar safle adeiladu gerllaw, mae'r adeiladwyr yn torri/tocio coed. A ganiateir hyn?

Mae materion sy'n ymwneud â choed, eu cadw, eu torri, eu tocio neu blannu coed newydd yn eu lle, yn rhan o'r broses o gyflwyno ceisiadau cynllunio a'u cymeradwyo. Mae'n rhaid i unrhyw waith ar goeden gydymffurfio â'r cynlluniau sy'n gysylltiedig â'r caniatâd cynllunio a roddwyd. Bydd caniatâd cynllunio llawn yn bwysicach nag amddiffyniad cyfreithiol i goed.

Mae fy nghymydog yn torri/tocio coeden yn ei ardd. A oes caniatâd ganddo?

Os na warchodir coeden gan Orchymyn Cadw Coed, neu os nad yw'r goeden mewn ardal gadwraeth, nid oes angen caniatâd gan y cyngor. Gallai fod eithriad yn achos y gwaith hefyd. Gallwch chwilio am geisiadau gweithio ar goed a gymeradwywyd drwy  chwilio drwy geisiadau cynllunio (Yn agor ffenestr newydd). Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni.

Beth dylwn ei wneud os rwyf yn credu bod rhywun wedi niweidio neu dorri coeden a warchodir?

Cysylltwch â ni. Gallwn wirio a roddwyd caniatâd ar gyfer y gwaith neu beidio. Os nad oes gennym gofnod o waith a wneir a gwarchodir y coed, byddwn yn ymchwilio i unrhyw waith anawdurdodedig.

A ellir torri coed a warchodir i wneud gwaith datblygu'n bosib?

Os nad yw coed wedi'u gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed, neu os nad ydynt mewn ardal gadwraeth, gellir eu torri heb ganiatâd y cyngor. Mae coed yn ystyriaeth bwysig wrth gyflwyno cais cynllunio, ni waeth a gânt eu gwarchod neu beidio. Gall y cyngor osod amodau yn ystod y broses o gymeradwyo ceisiadau cynllunio i helpu i sicrhau y caiff coed amddiffyniad digonol yn ystod y cam adeiladu.

Rwyf wedi prynu eiddo sydd â sawl coeden aeddfed yn yr ardd. Sut gallaf wybod eu bod yn ddiogel?

Dylech ofyn am gyngor gan gontractwr/feddyg trin coed neu ymgynghorydd ymghylch cyflwr y coed. Caiff y coed eu harchwilio a nodir eu cyflwr, a gellir argymell gweithio arnynt. Os caiff eich coed eu gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed neu os ydynt mewn ardal gadwraeth, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau bydd angen cyflwyno manylion y gwaith arfaethedig i'r cyngor. Argymhellir archwilio coed aeddfed sy'n agos i adeiladau neu'r briffordd gyhoeddus yn rheolaidd. Bydd amlder yr archwiliadau hyn yn dibynnu ar faint a chyflwr y coed.

Credaf fod gennyf goeden a warchodir sydd yn farw. A allaf ei thorri?

Gellir torri unrhyw goeden a warchodir sydd wedi marw, sy'n marw neu sy'n berglus heb gyflwyno cais. Fodd bynnag, oni bai fod y goeden yn beryglus iawn, byddai'n ddoeth i roi pum niwrnod o rybudd i'r cyngor. Os oes angen gwneud gwaith brys ar y goeden, cysylltwch â ni. Pan fydd swyddfeydd y cyngor ar gau, dros y penwythnos er enghraifft, gellir gwneud y gwaith. Fodd bynnag, mae dyletswydd ar erchennog y goeden a'r contractwr i brofi bod eithriad yn berthnasol i'r goeden dan sylw. Oherwydd hyn, cynghorir i chi dynnu lluniau, cadw rhannau o'r goeden a chysylltu â'r cyngor cyn gynted â phosib wedi cwblhau'r gwaith. Gellir hefyd fod dyletswydd i blannu coeden newydd yn ei lle.

A fydd y cyngor yn derbyn cyfrifoldeb am fy nghoeden a warchodir os na roddir caniatad i mi ei thorri ac achosir difrod i eiddo fy nghymydog o ganlyniad?

Os yw'r cyngor yn gwrthod caniatad i chi dorri coeden a warchodir ac achosir difrod i eiddo eich cymydog o ganlyniad, gallwch fod yn gymwys i hawlio iawndal. Bydd hynny'n dibynnu ar p'un a oedd y difrod yn ganlyniad uniongyrchol o wrthod caniatad i chi, a maint y difrod. Os oes gennych unrhyw bryderon, fe'ch cynghorir i gael adroddiad gan arbenigwr coed annibynnol. Rhaid cyflwyno unrhyw gais am iawndal o fewn 12 mis o benderfyniad y cyngor (neu benderfyniad Gweinidog Cymru yn achos apel).

A fyddaf yn gallu hawlio iawndal gan y cyngor os bydd coeden a warchodir yn achosi difrod?

Na fyddwch. Perchongion tir sy'n gyfrifol am sicrahu bod eu coed yn ddiogel, ni waeth a ydynt wedi'u gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed neu a ydynt mewn Ardal Gadwraeth.

A fydd y cyngor yn talu am docio fy nghoeden a warchodir?

Na fydd. Perchnogion sy'n gyfrifol am sicrhau bod eu coed yn ddiogel. Perchennog y tir fydd yn gyfrifol am gostau ymgymryd ag unrhyw waith tocio.

A allaf apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor os gwrthodir fy nghais i ymgymryd a gwaith?

Gallwch, ond rhaid cyflwyno apeliadau'n ysgrifenedig o fewn 28 niwrnod o benderfyniad y cyngor. Caiff apeliadau eu penderfynu'n annibynnol gan yr Arolgaeth Gynllunio, fel arfer drwy sylwadau ysgrifenedig a chan gymryd rhwng tri i bum mis i'w datrys. Ni chodir tal am apelio.

Gellir apelio yn erbyn:

  • gwrthod caniatad
  • rhoi caniatad ag arnodau
  • methu penderfynu ar y cais o fewn y cyfnod penderfynu, sef wyth wythnos.

Sut gallaf gael Gorchymyn Cadw Coed?

Cyflwyno cais am Orchymyn Cadw Coed newydd

Mae iorwg yn tyfu ym moncyff fy nghoeden a chredaf ei fod yn mynd i'w lladd. A oes rhaid i mi ei symud?

Nid yw iorwg yn barasitig ac nid yw'n lladd coed. Y brif broblem sy'n gysylltiedig ag iorwg yw y gall gynyddu'r 'effaith hwylio' a phwysau coed colldail yn sylweddol yn ystod y gaeaf, gan eu gwneud yn fwy agored i ddifrod mewn stormydd. Problem arall yw y gall iorwg guddio gwendidau ym moncyff a phrif ganghennau'r goeden.

Mae iorwg yn bwysig yn ecolegol. Mae'n blodeuo'n hwyr yn y flwyddyn, gan gynnig un o'r ffynonellau olaf o fwyd i bryfed cyn y gaeaf. Mae'r ffrwyth yn datblygu yn ystod y gaeaf ac mae'n aeddfed yn gynnar yn y gwanwyn pan fydd diffyg bwyd i adar a mamaliaid. O ganlyniad i'w natur fytholwyrdd, mae iorwg hefyd yn cynnig gorchudd da yn y gaeaf. Mwy na thebyg, bydd angen rheoli iorwg os yw'n tyfu ymhell i gorun y goeden ac yn tyfu ar hyd ei changhennau ochrol.

Fel arfer, gellir rheoli iorwg drwy dorri rhannau o goesau'r iorwg wrth waelod y goeden a chael gwared arnynt. Os yw'r iorwg yn doreithiog, gall fod yn arwydd nad yw'r goeden yn iach. Gall hynny ddigwydd wrth i goeden wywo, pan fydd mwy o olau'n cyrraedd canol y corun, sy'n fuddiol i dyfiant yr iorwg. Dylech ofyn am gyngor contractwr/meddyg trin coed neu ymgynghorydd mewn coedyddiaeth am gyflwr coeden sy'n peri gofid.

Mae sylwedd gludiog yn cwympo o'm coeden. Beth gallaf ei wneud amdano?

Y gawod fel yw hon mwy na thebyg, sef sylwedd gludiog a melys y mae pryfed gleision sy'n byw ar wyneb isaf dail yn ei secretu. Gall y gawod fel gael ei chytrefu gan lwydni du sy'n ei thro'n ddu. Mae rhai rhywogaethau, megis pisgwydd, yn fwy tebygol o gael hyn nag eraill. Mae amlder y gawod fel yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Bydd ysglyfaethwyr naturiol hefyd yn helpu i leihau niferoedd. Ni fydd y cyngor fel arfer yn rhoi caniatad i docio na thorri coeden a warchodir oherwydd pryfed gleison. Gellir golchi'r sylwedd du oddi gar gyda dwr sebon cynnes.

Mae ffwng yn tyfu ar fy nghoeden. A yw hyn yn gwneud y goeden yn beryglus?

Ceir llawer o fathau gwahanol o ffwng sy'n effeithio ar goed, ac fel arfer mae'r math o ffwng yn gysylltiedig ag ychydig o rywogaethau o goed cynhaliol. Gall pwysigrwydd y ffwng amrywio o rywogaeth i rywogaeth. Gall rhai mathau o ffwng achosi marwolaeth y goeden, ond prin iawn fydd effaith mathau eraill ar y goeden. Ni fydd tynnu rhan ffrwytho'r ffwng yn datrys y broblem oherwydd dyma'r rhan atgenhedlu. Mae prif gorff y ffwng y tu mewn i'r goeden. Dylech ofyn am gyngor annibynnol ar goed er mwyn asesu pwysigrwydd unrhyw ffwng a gaiff ei ddarganfod.

Ble galla i gael mwy o wybodaeth am glefyd coed ynn?

Clefyd coed ynn

Pryd dylwn i docio fy nghoed?

Yn gyffredinol, dylid tocio coed pan fyddant ynghwsg (sef mis Tachwedd i fis Chwefror). Fodd bynnag, mae pob rhywogaeth o goed yn ymateb yn wahanol felly os oes amheuaeth, gofynnwch am gyngor gan arbenigwr. Dylid osgoi tocio masarn a bedw yn y gwanwyn oherwydd eu bod yn tueddu i waedu'n sylweddol. Dylid tocio coed cnau Ffrengig yn yr haf hwyr yn unig, a choed ceirios yng nghanol yr haf.

Mae gwreiddiau coeden yn cau fy ffosydd. Beth gallaf ei wneud?

Mae gwreiddiau coed yn fanteisgar ac, os bydd pibell gyda chymalau gwan yn arllwys i'r pridd amgylchynol, bydd yn denu gwreiddiau. Os oes angen gwaith atgyweirio, yn aml gall nifer mawr of wreiddiau coed arwain at roi'r bau ar goeden gerllaw. Fodd bynnag, fel arfer bydd gosod deunydd modern yn lle ffosydd/pibellau diffygiol atal gollyngiadau ac yn datrys problemau.

Mae coeden yng ngardd fy nghymydog yn rhwystro fy ngolau. Beth gallaf ei wneud?

Materion preifat yw materion sy'n ymwneud a golau'n cael ei rwystro a chysgodi rhwng dau eiddo. Yn gyffredinol, nid oes gan yr un eiddo'r hawl i olau er anfantais i eiddo arall. Os yw'r coed sy'n rhwystro golau mewn llinell o ddwy rywogaeth fytholwyrdd neu fwy, yna ceir arweiniad yma: Gwrychoedd uchel

Mae coed fy nghymydog yn dod dros fy ffin. A allaf eu torri'n ol?

Mae cyfraith sifil yn eich caniatau i dorri unrhyw ganghennau sy'n hongian ar eich eiddo chi yn ol i'ch llinell ffin, wedi'i mesur i fyny i'r awyr dros y llinell honno. Fodd bynnag, os gwarchodir y goeden o dan GCC​​​​​​​ neu os yw mewn ardaloedd cadwraeth, mae'n ofynnol cyflwyno cais/hysbysiad gweithio ar goeden i'r cyngor, a phenderfyniad cyn ymgymryd ag unrhyw waith.

Sut y dylid dewis meddyg trin coed?

Mae trin coed yn waith arbenigol iawn y mae angen dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad cadarn er mwyn gallu ei wneud. Bydd gan dyfwyr coed cymwys (meddygon trin coed) dystysgrifau sy'n dangos eu bod wedi'u hyfforddi a'u hasesu a byddant yn defnyddio offer diogelwch i'ch amddiffyn chi, eich eiddo a'u hunain.  How to choose a tree surgeon (PDF) [267KB]

Gwybodaeth bellach a chysylltiadau defnyddiol

Gorchmynion cadw coed (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Y Gymdeithas Tyfu Coed (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith