Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am oleuadau stryd

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am oleuadau stryd.

A ellir ail-leoli neu gysgodi golau stryd?

Os yw'r golau stryd ar yr un ochr o'r ffordd â'r eiddo yr effeithir arno, efallai y bydd yn bosib cyfyngu ar ychydig o'r golau trwy osod sgrîn.

Os yw'r golau stryd ar ochr arall y ffordd, yna nid yw'n bosib fel arfer gyfyngu ar y golau oherwydd byddai hynny'n effeithio ar oleuo'r ffordd a'r palmant.

Mae ail-leoli goleuadau stryd yn anodd yn aml. Mae'r bylchau rhwng goleuadau stryd i sicrhau bod golau'n disgleirio'n gyson ar y ffordd a'r palmant a'i fod yn bodloni safonau Prydeinig. Os caiff un golofn olau ei symud yn unig, bydd disgleirdeb y golau'n anghyson. Gall ail-leoli golau stryd achosi problemau eraill hefyd. Byddwn yn ystyried pob cais yn ofalus cyn penderfynu ail-leoli golau stryd.

Os yw'n bosib symud golau stryd, bydd disgwyl i'r person neu'r cwmni a ofynnodd am hyn dalu'r gost lawn am ei symud.

A ellir rhoi blaenoriaeth i'r diffyg hwn?

Fel arfer mae'r awdurdod yn ymateb i adroddiadau am ddiffygion golau stryd yn gyfartal. Os teimlwch fod amgylchiadau arbennig yn yr achos dan sylw, nodwch hyn wrth adrodd am y ddiffyg. Byddwn yn ceisio atgyweirio diffygion cyn gynted â phosib.

Daeth gweithwyr cynnal a chadw ond ni chafodd y golau ei atgyweirio

Rydym yn ceisio atgyweirio diffygion ar yr ymweliad hwn. Os na chafodd y diffyg ei atgyweirio, efallai fod diffyg yn y cyflenwad trydan neu fod angen rhannau newydd.

Pam nad oes unrhyw un wedi bod i atgyweirio'r golau?

Rydym yn ceisio ymateb i adroddiadau am ddiffygion golau stryd o fewn 10 niwrnod gwaith. Os oes problemau gyda'r cyflenwad trydan, mae angen rhan newydd neu mae'r golau stryd wedi cael ei ddifrodi, gallai'r gwaith atgyweirio bara am fwy na 10 niwrnod gwaith.

A allaf wneud cais am oleuadau stryd newydd neu ychwanegol yn fy ardal?

Gallwch ysgrifennu at y Rheolwr Goleuadau Stryd i ofyn am oleuadau newydd neu ychwanegol. Mae rhestr aros bellach.

Rydym wedi byw ar yr ystâd newydd hon ers peth amser nawr. Pam nad yw'r goleuadau wedi cael eu cynnau?

Bydd y datblygwr yn gofalu am y goleuadau stryd nes bod y cyngor yn cymryd cyfrifoldeb yn swyddogol am gynnal a chadw'r ffordd.

Pryd caiff y golau stryd diffygiol ei atgyweirio?

Caiff diffygion eu hatgyweirio fel arfer o fewn 10 niwrnod gwaith, ac eithrio lleoliadau lle mae cael mynediad yn anodd, lle gall gymryd mwy o amser. Mewn argyfwng (fel pan nad yw 3 golau dilynol yn gweithio; polyn lamp/arwydd wedi'i oleuo sydd wedi'i fwrw i lawr, panel ar bolyn lamp/arwydd wedi'i oleuo sydd wedi dod i ffwrdd ac mae'r gwifrau'n dangos) byddwn yn ceisio bod ar y safle o fewn 2 awr i dderbyn yr adroddiad.

Os oes perygl (ond nid yw'n argyfwng), byddwn yn ceisio bod ar y safle o fewn 24 awr i dderbyn yr adroddiad. Mae hyn yn cynnwys goleuadau croesi sy'n fflachio, goleuadau ar groesfannau sebra a bolardiau wedi'u goleuo.

Os yw'r diffyg yn y cyflenwad trydan, bydd angen mwy o amser i'w atgyweirio, a rhoddir blaenoriaeth i ddiffygion sy'n effeithio ar oleuadau lluosog dros ddiffoddiadau unigol.

Rhestr o oleuadau stryd
Cyfanswm y colofnau stryd25,988
Cyfanswm y llusernau stryd (ac eithrio arwyddion ffyrdd a bolardiau traffig)29,029
Nifer y llusernau 'golau gwyn' LED23,608
Nifer y llusernau 'golau gwyn' fflworoleuol407
Nifer y llusernau stryd 'golau gwyn' eraill (e.e. llusernau halid metel: mathau CDM-T a CDM-TT)128
Cyfanswm y llusernau stryd 'golau gwyn'24,143
Nifer y llusernau stryd SON3,781
Nifer y llusernau stryd SOX1,105
Nifer y llusernau tanddaearol/tanlwybr (heb eu cynnwys yn unrhyw un o'r uchod)0
Nifer y llusernau stryd eraill (heb eu cynnwys yn unrhyw un o'r uchod)0
Nifer y llusernau stryd sydd heb eu cynnwys uchod (dan berchnogaeth gymunedol/a ariennir gan y gymuned)0
Cyfanswm yr arwyddion/llusernau wedi'u goleuo (heb gynnwys y llusernau uchod)3,023
Cyfanswm nifer y bolardiau wedi'u goleuo (ac eithrio'r llusernau stryd uchod)564

Mae'r rhan fwyaf o'n goleuadau stryd yn un o bedwar math:

  1. Deuodau Allyrru Golau (LED). Mae'r rhan fwyaf o'n goleuadau stryd a niferoedd cynyddol o arwyddion a bolardiau'n defnyddio'r dechnoleg hon. Maent yn cynhyrchu'r golau agosaf at olau dydd, yn defnyddio llai o ynni ac mae eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr yn llai. 
  2. Goleuadau Sodiwm Gwasgedd Uchel. Mae'r rhain yn cynhyrchu lliw euraidd ac fe'u gosodwyd lle'r oedd angen lliw mwy naturiol, er enghraifft mewn canol trefi ac ardaloedd cadwraeth. Mae'r rhain yn cael eu disodli gan oleuadau LED lle bo modd.
  3. Goleuadau Sodiwm Gwasgedd Isel. Mae'r rhain yn cynhyrchu golau lliw oren cyffredin ac maent yn cael eu dileu'n raddol o fewn y diwydiant wrth i wneuthurwyr symud at gynhyrchu LED.
  4. Tiwbiau Fflworoleuol. Defnyddir y tiwbiau hyn i oleuo tanffyrdd i gerddwyr ac arwyddion traffig. Maent yn darparu lliw naturiol.

Trydan

Cyflenwir trydan yn gyffredinol i oleuadau stryd drwy geblau tan ddaear a gwifrau mewnol yn y colofnau. Cyfrifoldeb yr awdurdod yw'r ceblau tan ddaear neu maent dan berchnogaeth y Grid Cenedlaethol (Western Power Distribution Limited gynt). 

Mewn rhai achosion darperir trydan drwy rwydwaith uwchben y cwmni trydan i oleuadau sy'n gysylltiedig â'r polion trydan.

Darperir trydan ar 230 folt 50Hz. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Grid Cenedlaethol gan fod difrod i'w hoffer neu fethiant cyflenwi yn galw arnynt i adfer gwasanaethau.

Close Dewis iaith