Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cŵn mewn safleoedd bwyd

Mater i'r busnes bwyd unigol benderfynu arno yw a ddylid caniatáu ci anwes i gael mynediad i ardaloedd cyhoeddus y busnes hwnnw neu beidio.

Mae'n bosib y bydd gan rai busnesau bolisi 'dim anifeiliaid anwes'; bydd rhai eraill yn croesawu cŵn sy'n ymddwyn yn dda mewn ardaloedd cyhoeddus.

Cŵn cymorth mewn bwytai/caffis

Gellir adnabod ci cymorth yn syth drwy'r harnais y mae'n ei wisgo a'r tag arbennig ar ei goler. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori bod cŵn cymorth wedi'u heithrio fel arfer o ganlyniad i'r rhinweddau canlynol:

  • Mae cŵn cymorth yn gwn gweithio â lefel uchel o hyfforddiant, nid anifeiliaid anwes ydynt.
  • Ni fydd ci cymorth yn crwydro'n rhydd o gwmpas yr adeilad.
  • Bydd ci cymorth yn eistedd neu'n gorwedd yn dawel ar y llawr wrth draed ei berchennog.
  • Mae cŵn cymorth wedi'u hyfforddi i fynd i'r toiled ar orchymyn ac felly maent yn annhebygol o faeddu mewn man cyhoeddus.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi na all unrhyw un sy'n darparu gwasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau i'r cyhoedd wrthod darparu eu gwasanaeth i berson anabl am reswm sy'n gysylltiedig ag anabledd y person hwnnw.

Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddarparwr gwasanaeth wneud addasiadau rhesymol i unrhyw arfer, polisi neu weithdrefn sy'n ei gwneud hi'n amhosib neu'n afresymol anodd i berson anabl ddefnyddio'r nwyddau, y cyfleusterau neu'r gwasanaethau dan sylw.