Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwynion bwyd

Oes gennych chi gŵyn am fwyd rydych wedi'i brynu nad yw'n bodloni safonau cyfreithiol?

Rydym yn mynd i'r afael â chwynion am fwyd anaddas a phethau estron mewn bwyd, a hefyd gyda chwynion am labeli, cyfansoddiad a swm. Edrychwch ar yr arweiniad cwynion bwyd i gael mwy o wybodaeth am fwyd anaddas.

Pa fath o fwyd y gallwch gwyno amdano?

Gall bwyd â darnau estron, llwydni, pryfed, blas neu arogleuon anarferol fod yn achos pryder weithiau.

Yr hyn y gallwn ymchwilio iddo

  • bwyd sy'n anaddas i'w fwyta, sy'n niweidiol i iechyd neu sydd wedi'i halogi â mater estron.
  • bwyd nad yw o'r sylwedd, natur nac ansawdd y dylai fod e.e. wedi'i labelu'n anghywir neu gyda'r pwysau neu'r maint anghywir.

Sut i helpu

  • yn achos cynwysyddion tryloyw megis jar gwydr neu fag plastig, efallai y bydd darn estron i'w weld yn y bwyd cyn i chi agor y cynhwysydd. Os felly, PEIDIWCH AG AGOR y cynhwysydd. Efallai y bydd tynnu'r darn estron allan yn difetha'r dystiolaeth.  
  • efallai na fyddwch yn dod yn ymwybodol o broblem nes i chi agor y bwyd neu hyd yn oed ei fwyta. Mae'n bwysig eich bod yn cadw'r holl fwyd, nid y darn estron yn unig. Rhowch y bwyd mewn cynhwysydd addas e.e. bag plastig neu flwch brechdanau sy'n cau'n dynn a'i gadw yn eich oergell. Byddwch yn ofalus eich bod yn ei roi mewn lle na all ddiferu neu ddod i gysylltiad â bwydydd eraill. Os yw'r darn estron wedi'i ymgorffori yn y bwyd, e.e. pryfyn mewn tafell o fara, peidiwch â cheisio ei dynnu allan. 
  • cadwch yr holl becynnu, yn cynnwys cloriau caniau, topiau pacedi ac ati, a'r dderbynneb os yw'n bosibl. Efallai y bydd angen derbynebau i nodi'r ffatri lle gwnaed y bwyd, neu'r dyddiad a'r amser y gwnaed y bwyd.  
  • cofiwch - Gall sut yr ymdriniwyd â'r bwyd yn ystod camau cynnar ymchwiliad effeithio ar rai profion efallai y bydd rhaid eu gwneud. Peidiwch â thrafod y bwyd mwy nag sy'n angenrheidiol, a pheidiwch â chyffwrdd darn estron neu ei symud o'r bwyd sydd o'i amgylch. 
Close Dewis iaith