Toglo gwelededd dewislen symudol

Cydlynu Ardal Leol

Dod o hyd i help a chefnogaeth yn eich cymuned.

Beth mae Cydlynydd Ardal Leol yn ei wneud?

Gallwn helpu unrhyw un i feithrin perthnasoedd yn eu cymuned. Rydym yn cefnogi pobl hŷn, pobl anabl, pobl ag anghenion iechyd meddwl, eu teuluoedd a'u gofalwyr i:

  • adeiladu eu gweledigaeth ar gyfer bywyd da
  • bod yn gryf ac yn gysylltiedig
  • teimlo'n ddiogel ac yn fwy hyderus yn y dyfodol

Sut mae'n gweithio?

Byddwn yn cymryd amser i ddod i'ch adnabod chi, eich teulu a'ch cymuned. Byddwn yn eich cefnogi i:

  • gael mynediad i wybodaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd
  • cael eich clywed, cadw rheolaeth a gwneud dewisiadau
  • nodi'ch cryfderau, eich nodau a'ch anghenion personol
  • dod o hyd i ffyrdd ymarferol o wneud y pethau rydych chi am eu gwneud neu y mae angen i chi eu gwneud
  • datblygu a defnyddio rhwydweithiau lleol a phersonol
  • cynllunio ar gyfer y dyfodol
  • bod yn rhan o'ch cymuned a chyfrannu ati
  • cael mynediad i gefnogaeth a gwasanaethau os oes angen

E-bostiwch  local.areacoordination@abertawe.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter https://twitter.com/Swansea_LACs

Cydlynu Ardal Leol - Marina Abertawe, Brunswick a Sandfields

Enw
Cydlynu Ardal Leol - Marina Abertawe, Brunswick a Sandfields