Cyfleoedd noddi a masnachol
Partnerwch â ni i hyrwyddo'ch brand a chael effaith barhaol...
Mae Abertawe'n ddinas fywiog ar gyfer busnes, yn lle ffyniannus i fyw ac yn ganolfan ar gyfer addysg ac arloesi. Drwy bartneru â ni, gall eich sefydliad godi ei broffil, gellir cynyddu amlygrwydd y brand, ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd a dangos ymrwymiad ystyrlon i werthoedd cymdeithasol a chymuned.
Manteision allweddol partneriaeth
- Gwahaniaethu eich brand oddi wrth gystadleuwyr drwy lwyfannau hyrwyddo pwrpasol
- Atgyfnerthu hygrededd a dangos cyfrifoldeb corfforaethol
- Sefydlu partneriaethau tymor hir â Chyngor Abertawe a rhanddeiliaid cymunedol
- Cydweithio ochr yn ochr â phartneriaid lleol a chenedlaethol eraill sy'n uchel eu parch
- Cyrraedd miloedd o ddarpar gwsmeriaid, gan gynnwys mwy na 36,000 o fyfyrwyr a phoblogaeth gynyddol o breswylwyr ac ymwelwyr
Cyfleoedd noddi a hysbysebu
Rydym yn cynnig ystod eang o opsiynau hyblyg i weddu i bob amcan a chyllideb farchnata, gan gynnwys:
- baneri polion lampau i hysbysebu'ch cwmni mewn lleoliadau poblogaidd ledled y sir
- nawdd ar gylchfannau i arddangos eich brand ar draws llwybrau trafnidiaeth allweddol
- cyfleoedd i noddi digwyddiadau lle bydd eich brand yn amlwg ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd mawr
Partneru â digwyddiadau arobryn
Mae gennym hanes balch o gyflwyno digwyddiadau mawr arobryn sy'n denu cynulleidfaoedd mawr a sylw'r cyfryngau. Mae eich cefnogaeth yn ein helpu i barhau i gynnal y profiadau o ansawdd uchel hyn wrth gynnig sylw gwerthfawr i'ch busnes a manteision hyrwyddol.
Mae digwyddiadau mawr yn cynnwys:
- Gŵyl Croeso
- Sioe Awyr Cymru
- Sinema Awyr Agored
- Theatr Awyr Agored
- Amplitude
- Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe
- Ras 10K Bae Abertawe
- Digwyddiadau Nos Galan Gaeaf
- Arddangosfa Tân Gwyllt
- Gorymdaith y Nadolig
Mae pecynnau nawdd pwrpasol ar gael i weddu i ystod eang o gyllidebau a gellir eu teilwra i gyrraedd eich nodau marchnata penodol.
Cysylltwch â ni
I archwilio cyfleoedd nawdd neu hysbysebu, cysylltwch â'n Tîm Masnachol. Rydym yma i helpu i ddatblygu partneriaeth sy'n cyd-fynd â'ch strategaeth busnes ac yn cyflawni canlyniadau mesuradwy.
E-bost: masnachol@abertawe.gov.uk