Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am Gyflogwyr Cysylltu â Gwaith

Mae Cysylltu â Gwaith yn gyfle i gyflogwyr ddechrau neu adeiladu ar eu strategaethau anabledd a chynhwysiant ehangach drwy fynediad at arbenigwyr Cyflogaeth â Chymorth a fydd yn eich arwain i gael gweithle mwy hygyrch drwy gefnogi pobl anabl, y rheini sydd â chyflyrau iechyd a'r rheini sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Yr hyn y byddwch chi'n ei dderbyn fel cyflogwr Cysylltu â Gwaith

  1. Cefnogaeth gwmpasog
    Cefnogir unigolion a gyflogir drwy Cysylltu â Gwaith gan Arbenigwr Cyflogaeth a fydd yn cydweithio â'r cyflogwr ar sefydlu, hyfforddiant, cynllunio gyrfa a nodi addasiadau rhesymol.
  2. Cysylltiadau cryfach i rwydweithiau cymorth
    Gall Arbenigwyr Cyflogaeth gyfeirio cyflogwyr at wasanaethau defnyddiol, os ydych chi'n newydd i hyn neu'n Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
  3. Recriwtio
    Bydd Arbenigwr Cyflogaeth Cysylltu â Gwaith yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr i ddeall anghenion eich busnes a chydweddu'r person cywir a swydd sy'n cyd-fynd â'i sgiliau a'i nodau, gan arbed amser a chostau recriwtio.
  4. Arferion cynhwysol
    Gall yr Arbenigwr Cyflogaeth gefnogi cyflogwyr gydag arferion fel denu talent gynhwysol, prosesau cynefino ac adeiladu gyrfa i hwyluso'r trawsnewidiad i weithle mwy cynhwysol.

Buddion i chi fel y cyflogwr

  1. Cynnydd posib mewn cynhyrchedd
  2. Cynnydd mewn amrywiaeth cwsmeriaid
  3. Llai o drosiant staff
  4. Amgylchedd gwaith gwell
  5. Gwella eich enw da

Chwalu mythau

Prinder amser

Un o fanteision allweddol Cysylltu â Gwaith yw bod gennych fynediad at Arbenigwyr Cyflogaeth a all weithio mewn partneriaeth â chi a'r cyfranogwr i ddeall gofynion eich busnes wrth weithio i wella hyder a gallu'r gweithlu ehangach, gan dynnu'r pwysau oddi ar y busnes.

Maint y busnes

Mae cyflogwyr o bob maint eisoes yn defnyddio cynlluniau Cyflogaeth â Chymorth; gall yr Arbenigwr Cyflogaeth nodi anghenion penodol eich gweithle a darparu ar ei gyfer.

Absenoldeb salwch

Mae astudiaethau'n dangos bod ychydig neu ddim gwahaniaeth rhwng faint o absenoldeb salwch a gymerir gan weithwyr ar raglenni cyflogaeth â chymorth o'u cymharu â'r rheini nad ydynt ar y rhaglenni hynny. Gellir rhannu unrhyw bryderon gyda'r Arbenigwr Cyflogaeth a dod o hyd i ddatrysiadau.

Addasiadau rhesymol

Mae addasiadau rhesymol yn newidiadau y mae cyflogwr yn eu gwneud i gael gwared ar anfantais sy'n gysylltiedig ag anabledd rhywun neu ei lleihau.

Maent yn ofyniad cyfreithiol i bob cyflogwr, mae'r gost fel arfer yn fach iawn a gall wella effeithlonrwydd. Er enghraifft, gall darparu patrymau gweithio hyblyg ganiatáu i unigolyn weithio yn ystod ei oriau mwyaf cynhyrchiol.

Maent yn:

  • benodol ar gyfer yr unigolyn
  • gallu bod yn addas ar gyfer unrhyw anabledd (iechyd corfforol neu feddyliol) gan gynnwys cyflyrau iechyd tymor hir
  • gallu cynnwys unrhyw faes gwaith

Mae'r hyn sy'n rhesymol yn dibynnu ar bob sefyllfa. Bydd yr Arbenigwr Cyflogaeth yn helpu cyflogwyr a gweithwyr i nodi unrhyw addasiadau a'u gweithredu. Mae'r rhain fel arfer am ddim neu'n isel o ran cost neu am ddim a gall fod yn hawdd i'w sefydlu.

Enghreifftiau o addasiadau rhesymol:

  1. Darparu offer, gwasanaethau neu gefnogaeth
    Darparu offer ychwanegol neu wedi'i addasu fel cadair neu gynnig cefnogaeth 1-i-1 i helpu i reoli llwythi gwaith.
  2. Newid trefniadau gweithio rhywun
    Galluogi rhywun i weithio gartref neu newid ei batrwm gwaith.
  3. Dod o hyd i ffordd wahanol o wneud rhywbeth
    Cyflwyno gwahanol ddulliau hyfforddi ar gyfer gwahanol ffyrdd o ddysgu neu ddosbarthu tasgau'n wahanol mewn tîm.
  4. Gwneud newidiadau i'r gweithle
    Darparu lle parcio hygyrch neu newid cynllun swyddfa.

Cofrestrwch eich diddordeb

Pan fyddwch wedi cofrestru'ch diddordeb gyda ni, bydd Arbenigwr Cyflogaeth yn cwblhau dadansoddiad swydd i ddeall y tasgau a'r priodoleddau sy'n gysylltiedig â'r rôl er mwyn ei chydweddu â chyfranogwr Cysylltu â Gwaith.

Gall ein Harbenigwr Cyflogaeth eich tywys drwy'r broses recriwtio, cefnogi gydag addasiadau ac arwain eich rheolwyr recriwtio.

Bydd yr Arbenigwr Cyflogaeth hefyd yn darparu cymorth wedi'i deilwra i'ch gweithiwr, yn cefnogi diwylliant yn y gweithle ac yn grymuso aelodau'r tîm i ddarparu cefnogaeth naturiol.

Cofrestrwch eich diddordeb i ddod yn gyflogwr Cysylltu â Gwaith Cofrestrwch eich diddordeb i ddod yn gyflogwr Cysylltu â Gwaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Rhagfyr 2025