Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno cais am Orchymyn Cadw Coed newydd

Gallwch ddefnyddio'n ffurflen ar-lein i wneud cais am GCC newydd i warchod coeden unigol benodol, grŵp o goed neu goetir.

Cyngor presennol y llywodraeth yw y dylid trin gorchmynion cadw coed a disgresiwn er mwyn sicrhau y gwarchodir coed addas at ddibenion amwynderau ac y gall y cyngor gyflawnhau ei resymau dros gyflwyno gorchymyn. Mewn geiriau eraill, ni ddylid defnyddio gorchmynion cadw coed i warchod pob coeden mewn pob sefyllfa. Yn bennaf, efallai byddai'n briodol i gyflwyno gorchymyn cadw coed:

  • Os yw'r coed o werth amwynder cyhoeddus. Yn bennaf, golyga hyn bod y coed yn amlwg yn weladwy o leoliad cyhoeddus ac maent yn ychwanegu gwerth at y strydlun neu'r dirwedd leol. Fodd bynnag, gellir hefyd ystyried tystiolaeth o werth diwylliannol, hanesyddol, bywyd gwyllt neu brinder amlwg.
  • Byddai colli coed neu ddifrod i goed yn effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd lleol a'i fwynhad gan y cyhoedd, ac mae perygl sylweddol y bydd hyn yn digwydd os na chyflwynir gorchymyn cadw coed.
  • Mae'r coed mewn cyflwr gweddol dda, mae ganddynt ddisgwyliad oes rhesymol ac nid yw'n hysbys eu bod yn achosi unrhyw ddifrod i adeiladau.

Efallai na fydd bob amser yn gyfleus i gyflwyno gorchymyn cadw coed, er enghraifft lle nad oes unrhyw berygl amlwg i'r goeden neu os yw eisoes yn cael ei rheoli'n dda.

Mae coed sy'n tyfu mewn Ardal Gadwraeth yn cael eu gwarchod yn awtomatig unwaith y byddant yn mesur mwy na 75mm mewn diamedr, wrth fesur dros y rhisgl ar bwynt sy'n 1.5 metr o'r ddaear. Yn sgîl derbyn Hysbysiad o Fwriad i gael gwared ar goeden gymwys sy'n tyfu mewn Ardal Gadwraeth neu i wneud gwaith i'r goeden hon, byddwn fel arfer yn cyflwyno GCC os bodlonir y meini prawf uchod yn unig ac yn enwedig lle bydd y gwaith arfaethedig yn cael effaith groes sylweddol ar gymeriad yr Ardal Gadwraeth.

Os oes unrhyw goed rydych yn credu y dylai cael eu gwarchod yn ffurfiol nodwch yr wybodaeth isold. Ystyrir pob cais ar ei rinweddau unigol ar y cyd a chyngor presennol gan y Llywodraeth a pholisiau a fabwysiadwyd gan y cyngor. Byddai braslun syml ac unrhyw luniau cefnogi yn helpu i nodi'r goeden/coed dan sylw.