Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymeradwyo busnes bwyd

Mae'n bosib y bydd angen cymeradwyo busnesau bwyd (yn enwedig y rhai sy'n cyflenwi bwyd o darddiad anifeiliaid i fusnesau bwyd eraill) cyn dechrau unrhyw weithrediadau bwyd.

Mae enghreifftiau o fathau o adeiladau lle mae cymeradwyaeth yn ofynnol yn annibynnol (h.y. ddim yn gysylltiedig i ladd-dy, ffatri gig na sefydliad sy'n trin helgig):

  • ffatrïoedd prosesu cig
  • ffatrïoedd paratoi cig
  • gweithrediadau prosesu briwgig a ffatrïoedd prosesu cig wedi'u gwahanu'n fecanyddol
  • storfeydd oer.

Er mwyn sicrhau caniatâd ar gyfer safle bwyd, dylech gysylltu â'r tîm diogelwch bwyd, a all eich cynghori a darparu'r ffurflen gais i chi.

Close Dewis iaith