Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor i Ddefnyddwyr

Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar faterion defnyddwyr. Mae gan y wefan lawer o wybodaeth neu os hoffech chi siarad â rhywun, gallwch chi ffonio'r llinell gymorth i ddefnyddwyr neu ymweld â'ch swyddfa agosaf.

Gall gwefan Cyngor ar Bopeth (Yn agor ffenestr newydd) helpu gyda llawer o'ch ymholiadau fel defnyddiwr:

  • prynu neu drwsio car
  • problem gyda phryniant
  • gwyliau a chludiant
  • yswiriant
  • rydych chi wedi newid eich meddwl
  • post
  • ffôn, rhyngrwyd neu deledu
  • gwelliannau cartref
  • ynni
  • llythyrau templed
  • gweithredoedd twyllodrus
  • tocynnau ar gyfer digwyddiadau
  • dŵr
  • gwahaniaethu wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau.

Mae gwefan Cyngor ar Bopeth (www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/) yn cynnwys llawer o wybodaeth am faterion defnyddwyr.

Os byddai'n well gennych siarad â rhywun gallwch gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 0808 2231133 neu 0808 2231144 (Cymraeg). Mae ffyrdd eraill o gysylltu hefyd ar gael ar dudalen cysylltu â llinell gymorth defnyddwyr eu gwefan.

Mae'r gwasanaeth defnyddwyr hefyd yn gweithredu fel sianel i alluogi cleientiaid i adrodd am achosion posib o dorri deddfwriaeth, rheoliadau'r diwydiant neu arferion masnachu annheg i Safonau Masnach. Mae gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn anfon atgyfeiriadau at bartneriaid Safonau Masnach i'w cefnogi yn eu gwaith.

Close Dewis iaith